Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dragwyddol ynom ni, ac yn ein gwneuthur ni yn dragwyddol, ie, hefyd, oni bai fod Duw drwy ysprydoedd eraill, ni allent barhau byth. Ond er i fod ef drwyddynt, ni chaiff ef mor aros ynddynt. Ond mae trindod ddrygionus arall yn rheoli y byd.

Er. Pa beth yw trindod y byd ymma?

Col. Chwant y cnawd, chwant y llygad, a balchder y bywyd. Neu [1]ewyllys creulon, a difyrrwch brwnt, a gallu drygionus.

Er. Beth a ddywaid y frân wrth hyn?

Cigf. Gåd hyn heibio. Nid wyfi yn clywed yn iawn beth y mae hi yn i ddywedyd. Ond hyn a wn i, nad ydynt hwy i gyd ond y bobl gyfyngaf ei deall yn y byd. Rhyw un gaingc sydd yn ei pennau, ond nid oes moi calonnau hwy yn helaeth.

Er. Beth er hynny? Os ydynt [2] hwy yn deall yr un peth anghenrheidiol tragwyddol, nid oes ormod matter er i bod nhwy megis ffyliaid ynghylch y matterion a loscir ar fyrder gyda'r byd. Ond dysced pob aderyn y gaingc sydd i'w chanu fyth yn y byd arall, pan fo'r byd, a'r cyfrwystra, a sŵn pob hwsmonaeth wedi passio byth.

Cigf. Mi welaf dy fod ti yn dioddef iddynt ddywedyd fod y Drindod ynddynt.

Er. Ateb di, O Golomen, pa fodd y mae hyn? Ai trwy ysprydoliaeth neu sylwedd?

Col. O! Eryr, deall mai sylwedd yw pob ysbryd, ac nad yw'r byd a welir ond cyscod o'r byd nis gwelir, yr hwn sydd drwy'r [3]byd ymma: ac nid yw'r corph ond cyscod, ac megis march lliain yr ysbryd, neu wain i'r enaid a bery byth. [4]Ond mae'r "Drindod yn aros ynom yr un fath ag y mae'r mŵn aur yn y ddaiar, neu wr yn ei dŷ, neu blentyn yn y grôth, neu dân mewn ffwrn, neu'r môr mewn ffynnon, neu fel y mae'r enaid yn y llygad, y mae'r [5]Drindod yn y duwiol. Am hynny mae'r hen ddihareb yn cynghori, na chais ymweled a'r Drindod onis ceisi yn yr Undod. A gwirionedd yw mai

  1. Ioan ii. 16
  2. Luc x. 42.
  3. 2 Cor. iv. 18.
  4. Col. i. 27; Heb. iii. 6.
  5. Gal. iv. 19.