Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymhle bynnag (ymhwy bynnag) y bo goleuni, a chariad, a heddwch, a phurdeb, ac undeb, a nerth nefol, yno y mae'r Tri yn Un yn aros.

Er. Ni ddown at y pethau hyn etto. Chwedleuwn ychydig â'r gigfran, mi a'i gwelaf hi yn anesmwyth, ac yn barod i ehedeg. Gwrando di, från, ni fynnem bei gallem dy ynnill di i ddychwelyd gyda ni i'r Arch.

Cigf. Beth sydd gennych i'm hynnill?

Er. Mi wn mai gwell gan Noah faddeu i un a edifarhao na difa cant. Cofia Rahab o Jericho, a Saul o Tharsus, a'r lleidr ar y groes, a'r mab afradlon.

Cigf. Gobeithio'r gorau, oni bai obaith fe a dorre'r galon. Gobaith ni chywilyddia.

Col. Y sawl sydd ar iawn[1] obaith ynddo, mae efe yn i buro ei hun: a'r gobaith ffals arall sydd,[2] fel anadl dyn yn marw, yn diangc ymmaith.

Cigf. O Eryr, dymma'r golomen yn ceisio rhwystro i mi obeithio, ac os derfydd am fy ffydd am gobaith, fe ddarfu am danaf finnau byth.

Er. Nid felly. Ond dangos y mae hi fod gobaith rhai fel llaw wywedig, na all helpu pan fo rheitia, neu fel angor llong heb gael gafael yn y gwaelod.

Col. I ynnill y frân yn ol, mi allwn roi fy mywyd drosti. Ac rwi'n tystiolaethu fod gogoniant yn yr uchelder, ac ewyllys da i ddynion;[3] fe fu yr Iachawdwr ar y ddaiar yn ynnill publicanod mewn cariad, ac yn dioddef gloes angau dros ei elynion. A glywodd neb erioed sôn am y fath gariad? ddarfod i un dynnu ei galon o'i fonwes, a'i lladd hi, a'i rhoi hi iw wrthwynebwyr iw bwytta, iw cadw nhwy yn fyw? Dymma fel y gwnaeth y Goruchaf i achub y dynion bryntaf rhag y gwae tragwyddol. Mawr yw, os gall dyn dynnu ei lygad ai roi i gadw yn llaw ei gyfaill. Ond, O! beth a ddywedwn i am hyd, a lled, ac uwchder, a dyfnder cariad y Nefoedd? Mae llawer yn gorchfygu cariad ei cymmydogion drwy ei drygioni ei hunain. Ond mae hwn o'i ewyllys da yn talu holl ddlêd ei elyn a'i fywyd ei hún, ac yn i dynnu o'r carchar, ac yn i wisgo yn nillad ei

  1. I Ioan iii. 3
  2. Job xi. 20.
  3. Luc ii. 14.