Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fab ei hunan. Mae efe yn rhedeg ar ol y rhai sy'n diangc oddiwrtho, ac yn cusanu y rhai sydd yn poeri yn ei wyneb, ac yn cynnal yn gynnes y rhai sydd yn ceisio neidio o'i fonwes, ac yn cyd-ddwyn ar rhai na erys wrtho. [1]Fe ddaeth o'r Nefoedd uchaf i'r bedd isaf, i godi y pechadur drewllyd o'r dommen ddaiarol i'r faingc nefol. Fe gymmerodd afael ar naturiaeth dyn, ac a adawodd angelion i fyned gyda'r dwfr. Ond mae un peth yn rhwystro yr aderyn du ymma i ddyfod adref, er a ddyweder wrthi.

Er. Beth a all hwnnw fod?

Col. Y peth gorau ar a fedd hi. Synwyr y byd, a doethineb y cnawd,[2] a rheswm naturiol, yr hwn (fel sarph dorchog) sy'n chwythu allan wenwyn yn wyneb y gwirionedd; dysg lygredig sydd raid i dad-ddysgu, a'i dattod oll cyn cael cwlwm y gwir ddiscyblion; lleidr o'r tu fewn yw synwyr dyn, yn cloi[3] drws pob meddwl yn erbyn. awel yr Yspryd Glân. Dymma'r Achitophel a'r Suddas sy'n bradychu dyn i ddwylaw diafol. Mae gan bob dyn ddigon o [4]gyfrwystra iw dwyllo ei hunan. Dymma fwa Luciffer a gelyn Noah, mam rhyfeloedd, mammaeth oferedd, plentyn uffern, Diana'r byd, castell y pechod, mwg y pwll, dadleuwr dros ddrygioni, a ffynnon pob aflwydd, a'r anifail mawr. Canys doethineb y byd, rheswm dyn, cyfrwystra'r henddyn, yw'r cilwg dirgel, blodeuyn y cnawd, cares anghrediniaeth, a gwaed pwdr, dymma deyrnwialen Beelzebub, dymma ffals ddrych y ddaiar, dymma eulyn Babel, a brenhines y nefoedd, a chwedl meddwl cnawdol, neu ddwys feddylfryd y galon, gwadwr gwirionedd, pensaer anghrist, afon dyn, llyw natur, a chertwyn yn dwyn dyn ar y goriwared. [5]Dymma fambutain pob crefydd fastardaidd. Am hon yr wyfi yn son cymmaint, am iddi wneuthur cymmaint o ddrwg yn y byd dan rith synwyr a dealldwriaeth. Ac nid malais ond y cyfrwystra diffaeth ymma sy'n lladd y gigfran. Hwn yw'r gwynt sy'n troi melin yr ewyllys oddifewn.

Er. Beth yr wyti yn i ddywedyd yn erbyn doethineb? Mae arnai ofn dy fod di yn amhwyllo.

  1. Eph. iv. 9.
  2. Rhuf. viii. 7.
  3. Act. xiii. 10.
  4. Jer. xvii. 9
  5. Dat. xvii. 5