Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cigf. Nid oes fatter. Mi ai cymmeraf tra i caffwyf. Ffarwel i Noah, ac iw Arch, ac i tithau, ac i'th golomen. Ni ddoi attoch mwyach. Crawcc, crawcc. Ymaith, ymaith, ymhell ddigon.

Er. Wele, mae'r gigfran wedi hedeg a myned ymaith oddiwrthym ni yn ddigon pell. Ni Ni gawn lonydd i ymddiddan wrthym ein hunain am y pethau a ddechreuaist. Mi welaf na ellir dywedyd pob peth ymhob cwmni, am nad yw'r pethau [1]dyfnion ond damhegion i'r byd byddar. Rwi'n gobeithio, gan fod y frân wedi ein gadel, yr agori di i mi ddirgelwch dy deyrnas di.

Col. Ni feiddiaf fi ddywedyd [2] fy ngeiriau fy hunan, ond oddiwrth un, i ddangos y dwfn, ac ni fedri di moi ddeall er i ddywedyd. Nid oes na dywedyd na gwrando yn iawn onis gwneir yn Ysbryd y Goruchaf.[3] Arno fo rwi'n edrych, ynddo fo rwi'n credu, y dengys ef i ddiscleirdeb. Am hynny, dos rhagot.

Er. Pam mai deilien olewydd a ddygi di yn dy bîg, ac nid deilien oddiar bren arall?

Col. Yr olew nefol a'r ennaint tragwyddol yw fy ngwlybwr i[4] rwi'n gadel dail mawr-dderw Bashan [5]ar fy ol. Canys nid y dail mwyaf oddiar rai uchaf y mae Noah yn i hoffi.[6]

Er. Pam yr wyti yn dyfod brydnhawn yn yr hwyr, ac nid yn y borau, a'th newydd gennit?

Col. Am mai tua diwedd y byd y pregethir yr efengil dragwyddol, yr hon a guddiwyd rhag [7]oesoedd, a rhag patrieirch a phrophwydi yn y dechreuad.

Er. Roedd y gigfran (di glywaist), yn cyhuddo y golomen ddiwaethaf na ddaeth hi fyth at Noah.


Col. Gwir yw. Yr eglwys ddiwaethaf yw Laodicea. A gwir hefyd yw (fel y dywedaist di) nad rhaid wrth bregethwyr wedi darfod dwfr diluw digofaint. [8]A'r dyddiau diwaethaf yw'r dyddiau gorau [9]i rai, a gwaethaf i eraill; canys ynddynt y bydd rhai gwell, a rhai gwaeth, nag a fu o'i blaen hwynt erioed.

  1. Mat. xiii. 35
  2. Ioan v. 30.
  3. Ioan xvi. 14
  4. Zech. iv. 12.
  5. I Ioan ii. 20, 27.
  6. I Cor. i. 26
  7. Dat. xiv. 6; I Tim. vi. 15.
  8. Dat. iii.
  9. 2 Tim. iii. I.