Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er. Tri yn Un (meddi di) oedd ef. Ond a oes dim drwg yn dyfod oddiwrth y Rheolwr cyntaf, fel oddiwrth Noah?

Col. Nag oes. Nid oes (fel y dywedais i o'r blaen) ond cariad a goleuni ynddo [1]; er bod digter ac arglwyddiaeth gydag ef,[2] pa le bynnag y mae,[3] ac y mae ef ymhob man, yn llenwi'r nefoedd a'r ddaiar. Gochel feddwl fod dim drwg ynddo, er i fod ef yn hir yn cydddwyn a'r drygioni sydd yn y byd. O! Eryr, deall hyn; canys dymma wreiddyn ymranniad holl ganghenau gwybodaeth a naturiaeth; canys y naturiaeth dragwyddol yw ffynnon y naturiaeth amserol.[4] Di wyddost nad yw'r gair da, ynddo i hunan yn ddrwg, a ddêl allan o enau un a meddwl da, ond er cynted y dyweder ef, mae'r glust ddrwg yn ei wyro. Felly mae ysbryd y byd wedi cippio a chammu enaid dyn, er iddo ddyfod yn bur ac yn berffaith allan o'r un daionus.

Er. Oni anwyd pob peth allan o hono Ef, cystal a dyn?

Col. Na ddo. [5]Ond y Gair (yr hwn oedd yn y dechreuad) a barodd i'r ddaiar escor ar anifeiliaid, ac i'r môr ddwyn allan byscod, ac i naturiaeth ddwyn allan bob peth ar a oedd ynddi, ar ol ei ryw ei hun. Ond pan aeth ef i wneuthur dyn, ni pharodd ef i ddim ar a greasid mor escor. [6]Ond, efe ei hunan a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein llun, a'n delw ein hun. Am hynny, mae enaid dyn wedi dyfod o'r anfarwoldeb, ac yn myned i'r tragywyddoldeb.

Er. Ond pa fodd y daeth yr adar, a'r pyscod, a'r anifeiliaid, a'r dynion i ymladd, ac i ymrafaelio ai gilydd, na fedr neb gytuno yn yr un byd?

Col. Yr Arglwydd Eryr, nid oedd ar y cyntaf ond un natur yn Adda, ond hi a ymrannodd yn bedair caingc: nid oedd chwaith, [7]unwaith, ond un iaith, ond hi a dyfodd yn y ddaiar yn dafodau lawer. Nid oedd ond un grefydd gynt, ond hi a rwystrwyd, ac a aeth yn opiniwnau lawer i amryw dduwiau; ac am fod duwiau lawer mae rhyfel ymhyrth yr holl greaduriaid, ac ni

  1. I Ioan i. 5.
  2. Es. xxvii. 4.
  3. Job. xxv. 2.
  4. Rhuf. xi. 36.
  5. Gen. i. 9, 20, 24.
  6. Gen. i. 26.
  7. Gen. xi. I.