Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/66

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Er. Onid oedd ei heneidieu nhwy yn gadwedig?

Col. Nag oeddynt. Nhwy gollasont yr enaid gyda'r corph, y cleddyf gyda'r wain, canys mae Ysbryd y Gwirionedd yn dywedyd mai byd o annuwiolion oeddynt.

Er. Er hynny, caled yw'r gair, a garw i ti (Golomen wirion) farnu fod ei heneidieu hwynt yn golledig?

Col. Mae ysbryd y gwirionedd yn dywedyd yr hyn a ŵyr, a hwnnw a scrifennodd drwy fys Pedr.

Er. Ond nid yw Pedr yn dywedyd i mynd nhwy i'r tân tragywyddol, na chadwyd enaid neb ond yn yr Arch.

Col. Er hynny, nid oes iechydwriaeth yn enw neb arall ond yn enw yr un heb yr hwn ni all neb sefyll.. Ond nag ymofyn di gymmaint beth a ddaeth o honynt hwy, ond beth a ddaw o honot ti; mae i ti ddigon o waith dy gadw dy hunan.

Er. Ond pa fodd y ceiff un wybod i fod yn yr Arch, wedi i blannu yn yr Achubwr, gan fod y rhan fwyaf allan o hono?

Col. Os yw'r gwir ysbryd yn rheoli ynot, fe ddengys i ti dy fod yn gadwedig.5 Ac hebddo ef ni all nag addewid, nag arwydd, nag ordinhad, nag angel, mo'th sicrhau di.

Er. Ond pa fodd y ceir adnabod y gwir ysbryd?

Col. Wrth ei ffrwythau nefol yn y meddyliau, a'r geiriau, a'r gweithredoedd. Nid gwiw dywedyd geiriau yn y peth ymma; ond mae efe ei hunan yn selio gyda'r gydwybod. A'r sawl sydd yn yr Arch a ŵyr i fod ynddi, ac mae'n hawdd iddo weled arall allan o honi.

Er. Ond wrth ba henw y mae Moesen yn galw yr Arch?

Col. Wrth y gair Tebah, ag felly y mae Moesen yn galw y llestr yr achubwyd ei fywyd ef ynddo ar y dwfr pan ddaeth merch Pharaoh i'w dynnu allan. I achub Noah yr oedd Arch; i wared Moesen' yr oedd

1 Gen. vi. II. 2 2 Pet. ii. 5. 3 Act, iv. 12. 4 Ioan xxi. 22. 5 I loan v. 10. 6 Rhuf. viii. 16. 7 Exod. ii.