Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/69

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

thur un Arch, Trindod yn Undod, fel y mae dwfr, a gwaed, ac ysbryd yn yr un wŷthen. Ond mae dyn fel anifail nad yw yn i ddeall ei hunan, nag yn medru dychwel at Dduw.

Er. Ond pa fodd y gallai Noah gasclu yr anifeiliaid a'r adar i'r Arch?

Col. Mae'r anifail yn well na dyn; fe ddaeth yr anifail i'r Arch i gadw ei fywyd, ond dyn a foddodd yn y diluw. Er hynny Duw a heliodd yr anifeiliaid, a'r adar cadwedig, i mewn drwy yscogiad, ac wedi i cynhyrfu, nhwy a ddaethant o'i gwaith ei hun; a'r sawl a dywyso ef, a dywysir; a'r sawl a ddyscer gan y Tad a ddaw at y Mab. Ac mae Ysbryd etto drwy'r byd yn cynnull y rhai cadwedig i mewn, ac o'r diwedd yn gadel y rhai cyndyn allan.

Er. Ond yr oedd yn yr Arch anifeiliaid aflan cystal a'r rhai glân. Beth a ddywedir wrth hynny?

Col. Pob cangen (medd y winwydden) na ddygo ffrwyth 1ynofi a dorrir i lawr, a phob dyn ar y sydd yn cael ei fywyd naturiol yn Nghrist, ar na ddycco ffrwyth i Dduw drwyddo, a fwrir fel ciw dierth allan o nyth yr Eryr, hynny yw, allan o gynhesfa bywyd tragywyddol. A hyn a wneir yn y diwedd.

Er. Onid oedd yn hir gennym am ddyfod allan o'r Arch ar ol treio y dwfr?

Col. Di wyddost i bob un ddyfod allan mewn trefn, y naill yn llonydd gyda'r llall, pob un gyda'i gymmar, i ddangos mai trefnus yw ymddygiad y rhai cadwedig. Ac fel y claddwyd felly y codwyd nhwy, sef nyni, gyda'r Arch; a phan rodder y deyrnas i'r Tad, ni bydd anhrefnusdra, ond pawb a eiff iw le ac iw waith tragywyddol yn ôl ei naturiaeth a'i weithredoedd,

Er. Ond wedi'r diluw, fe a osodwyd Enfys wyrddfelen yn y ffurfafen. Beth y mae honno yn i ysbysu i ni?

Col. Mae'r bwa yn y cwmmwl a'i ddaupen i wared, ac nid i fynu, i ddangos nad yw'r Tad yn ewyllysio saethu at ddynion mwyach, ond yn gollwng ei fwa i

1 Ioan xv. 2. 2 I Cor. xiv. 40, 3 Gen. ix. 13.