Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/72

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

alw yn adgyfodiad. Canys er iddynt sefyll ar y ddaiar, nhwy fynnent y pryd hwnnw gael i cuddio dan y ddaiar, ac ynghromlechydd y creigiau. Ni chânt moi codi i'r awyr i gyfarfod yr Usdus mawr. Canys nid oedd ei heneidieu yn ei bywyd yn ymgodi i fynu, ond fel dwfr tywyll yn rhedeg ar i wared, ac yn pwyso tu a'r dyfnder.

Er. Ond pa'r y dyfnder yr wyti yn i feddwl? Pa beth yw'r dyfnder, a'r uwchder?

Col. O! Eryr, os gwrandewi fel y dylit, di gei fwy o ddealldwriaeth. Y dyfnder ymma yw'r pwll diwaelod, a hwnnw yw'r ail angau2, a'r angau mawr hwnnw yw'r uffern, a'r llîd anhraethadwy sy'n llosgi pechod, a phechaduriaid cyndyn, fel afon o frwmstans; canys mae'r pechod lleiaf yn cynhyrfu y digofaint mwyaf: ac am yr uwchder, hwnnw yw diwedd yr ail enedigaeth: Nid oes neb a'i hedwyn ond y rhai sy'n hedeg allan o honynt ei hunain iddo, ac yn byw ynddo.

Er. Ond ai diogel i ddynion hedeg yn uchel? Fe alle mai pa uchaf yr ymgodant, isaf y cwympant.

Col. Gwir ddigon yw os bydd escyll o gŵyr naturiaeth ganddynt, canys felly yr ehedodd Luciffer a'i lu i waelod uffern. Y balch a ostyngir, a'r isel o galon a ddyrchefir. Ond os calon ddrylliedig a gais adnabod dwfn gariad Duw, hi gaiff i dysgu, ai chynnal, ai chodi i uchelderau'r Arglwydd, ai chyfarwyddo yn ysbryd y gwir Noah.

Er. Ond yr wyti yn fynych yn son am Noah. Pa beth yw yr Yspryd?

Col. Ysbryd y Goruchaf yw'r awel dragwyddol, a'r Seren Forau, a Goleuni'r byd, Ffynnon yr oesoedd, Sêl y Testament, Anadl yr Oen, Rheolwr angelion, a Bywyd dynion: a'r Ysbryd hwnnw sy'n dwyn rhai i Baradwys, tra fo eu cyrph hwy ar y ddaiar.

Er. Paradwys: pa le mae'r ardd honno? Mi glywais son llawer am dani.

1 Dat. vi. 16. 2 Dat. xxi. 8.

Psal. xxv. 9. 

3 Esay xxx. 33. 4 Luc xiv. 8; 5 Phil. iii. 21