Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/80

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ac yr wyfi etto yn tystiolaethu, nad y rhain yw etifeddion teyrnas Dduw.1 Mae rhain boddi yn y cnawd, ac heb adnabod rhodfeydd Ysbryd y bywyd. Meirwon oeddynt, meirwon ydynt, a meirwon fyddant oll, oni eilw Duw rai o honynt.

Er. Beth a wna dyn i ddyfod allan o'r cnawd, i'r Ysbryd Glân, ac allan o hono ei hun i fyw yn Nuw?

Col. Mae llawer yn ymofyn ac yn ymbalfalu dros amser, ac yn ceisio unioni cangen gam ei naturiaeth ei hunain, ond mae nerth natur 2fel llanw yn gorchfygu yn y diwedd. Ac yn y diwedd y mae barnu; yn yr hwyr y bydd dydd y farn. Dyn a derwen a diwrnod. ynt anhawdd i hadnabod. Ond os myn neb i wadu ei hun, a dilyn yr Oen yn yr ailenedigaeth, a pharhau hyd y diwedd, a bod yn gadwedig, na ddiffodded mor golau sydd yn ei gydwybod, ond chwythed ef i oleuo, a dilyned oleuni Duw, a'r seren forau ynddo, ac fe a gyfyd yr haul yn ddisclaer arno.

Er. Pa beth yw'r seren forau honno?

Col. Sicrwydd gwybodaeth, Gwystl yr Ysbryd, siwr lygad ffydd, ernes perffeithrwydd, sel Jehovah, a thyst Tri yn Un, angor yr enaid; a'r cwbl pan fo dyn yn y goleuni yn adnabod cariad Duw atto, ynddo, a thrwyddo, mewn nerth a heddwch ryfedd.

Er. Oh! Beth a wna i gael hyn ynof fy hunan?

Col. Rhaid yw curo yn galed 5wrth ddrws Duw mewn gweddiau, fel cardottyn, ac nid tewi nes cael; mewn ysbryd a meddwl yn y porth bob munud, canys. y sawl ai gofynno ai caiff.

Er. Ond mae llawer yn gweddio heb fod nes. Pa bryd y mae gweddi dyn yn cyrhaeddyd monwes Duw?

Col. Pan fo Ysbryd Duw yn ochneidio (yn ddigymmysg) mewn dyn; pan fych di yn ymroi i Dduw, ac ewyllys i geisio Ysbryd Duw fel cynnyscaeth i'r enaid; ac hefyd yn ymgryfhau i barhau yn daer, ac yn wangcus, nes i ti i gael. O blegid nid cnocc neu ddau sydd ddigon wrth ddrws Duw. Mae llawer cythrel

1 I Cor. vi. 10; Gal. v. 21. 2 Luc xiii. 23, 24 3 Mat. xix. 25; 3 Mat. xxiv. 13 4 Col ii. 2; 2 Pet. i. 5 Luc xi. 9.