Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/81

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad a allan, drwy ympryd a gweddi, heb ffydd, na thrwy ffydd heb ympryd a gweddi. Ac mae'n agos dro mawr ar dywydd: Mae taranau ysbrydol, mae daiar-grynfàu ysbrydol, mae lleisiau ysbrydol, mae cenllysg ysbrydol, mae mellt ysbrydol, mae dreigiau ysbrydol, a barn ysbrydol. Ac mae'r rhain i gyd yn anweledig yn ysbryd dyn. Ymwrandawed dyn ai galon, ac fe gaiff glywed y pethau hyn ynddo ei hunan. Mae llawer a fyddai wych ganddynt drafaelio yr holl fyd drosto, ond nid adwaenant y byd mawr helaeth yn y galon; ond mae'r borau wedi gwawrio i ddyn yw adnabod ei hun, canys mae'r Priodfab yn barod, ar Brenin ar Barnwr wrth y drws.

Er. Ond mae llawer yn dywedyd er ystalm fod y Barnwr ar ddyfod, a bod ei fys ef yn codi clicced y drws er ys llawer blwyddyn. Er hynny ni wela i monofo etto yn ymddangos, na dydd y farn etto wedi dyfod.

Col. Mae dydd barn wedi dechrau yn barod yn y gydwybod, ac fe ai datcuddir yn yr amlwg pan ymddangoso y Duw mawr. Nid yw ef yn oedi dyfod, fel y dywaid rhai sydd heb i ganfod ef, nai gydnabod yn llenwi'r hollfyd, yn gweled pob peth, yn barnu'r teyrnasoedd, yn cyffroi yr holl naturiaethau, yn ceryddu cydwybodau, yn cyflawni prophwydoliaethau, ac yn agoryd yscrythurau. Er ir Iddewon ddisgwil yn hir am y Messiah, ni dderbynient mono pan ddaeth, am na ddaeth ef yn y ffigur yr oeddynt hwy yn disgwil am dano; felly mae fo yr awron yn barod i ddyfod yw deml, ond pwy a all aros tân y toddydd a sebon y golchyddion?[1] Fe ddaw, ac fe gaiff pawb i weled, fel y dywedais i am y Diluw or blaen.

Er. Rwyti yn myned oddi wrth y Questiwn a ofynnais i ti.

Col. Felly yr oedd Iachawdwr y byd pan ofynnid iddo lawer peth drwy synwyr y sarph. Ac ni thâl y cnawd moi atteb, ar sawl sy'n siarad llawer ymysg dynion nid yw fo yn clywed fawr o lais Duw a pharadwys. A gwell i mi dewi na dywedyd wrth un byddar,

  1. Mal. iii. I, 2.