Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/91

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

rudd, a lledrad, a llechiad ffalster, a thywyllwch, a phob gair segur (fel y clywaist ti) i'r farn. Ond ni all dyn roi cyfrif am un peth o fil, er hynny rhaid yw rhoi cyfrif: Deall di hefyd fod pob peth ynddo ei hun yn eglur yn barod; nid oes ond cnawd, ac amser, a mesur daiarol, yn rhwystro i'r naill wybod meddyliau'r llall; a phan dorrer y rhain, fe gaiff pawb weled y symudiadau sydd oddifewn. Ac yno fe gaiff pawb glod neu gywilydd o enau Duw.1

Er. Ond, er hynny, mae llawer peth a ŵyr dyn na ddyle fo mo'i ddywedyd, a llawer gwir drwg i ddywedyd.

Col. Gwir yw. Am hynny, na ddywaid air wrth neb oni bydd i'w les. Pam y 2troit dy dafod yn ofer mewn lleferydd, yr hwn a roddwyd i ti, ac nid i anifail? Ond er cyfrwysed a fo dyn, cofied a chanfydded fod y byd yn gweled peth, a'r angelion lawer, a'r gydwybod fwy, a Duw yn gweled y cwbl ar unwaith.

Er. Ond pa fodd y gall un ganfod y cwbl ar unwaith?

Col. Di weli fod yr haul yn edrych ar yr holl wlad, ac ar bob peth ynddi ar unwaith; mwy o lawer y cenfydd yr hwn a wnaeth yr haul heb yr haul. Oni chlyw yr hwn a wnaeth y glust (heb glust)? Ac oni wêl yr hwn a luniodd y llygad, heb ganwyll y llygad cnawdol? Ped fai dyn yn canfod fod y Barnwr mawr yn gweled ei holl feddyliau, ai drofëydd, ai lwybrau oddifewn ac oddifaes, ni pheche efe byth. Ond mae Luciffer yn cadw mwgwd y cnawd ar lygaid meddyliau dyn, na chaiff ef ganfod mo hono ei hun nes i bod hi yn rhyhwyr.

Er. Ai rhyhwyr un amser i ddyn wellhau?

Col. Mae'n rhyhwyr i lawer y foru, am fod heddyw yn rhy gynnar ganddynt 5 a'r sawl sy'n troi, sy'n dychwelyd weithiau heb wybod iddo ei hun. Cafwyd fi (medd y Goruchaf) gan y rhai nim ceisiasont."

Er. Beth os caledir calon dyn heddyw, onid yw yn rhyhwyr iddo geisio troi y foru?

1 2 Cor. v. 10. 2 Eph. iv. 29; Col. iv. 6. 3 Psal. xix. 6. 4 Psal. xciv. 9. 5 Seph. iii. 2, 3. 6 Es. lxv. I