CYNHWYSIAD.
⊚⊚
HANES.
OWEN GLYNDWR.
Gogoniant Owen Glyn Dŵr yn graddol ymddangos. Ei bwysigrwydd, ei wrthryfel ef wnaeth i frenin a barwniaid Lloegr ofni trawsfeddiannu tir y Cymry.
Ei addysg a'i gyfle. Y tywysogion dan y deddfau tir, y llafurwyr dan y deddfau llafur, y myfyrwyr dan ddylanwad y Deffroad,—oll yn barod i'w ganlyn. Iolo Goch a'r aradr.
Sycharth a Glyndyfrdwy,—Iarll Grey'n trawsfeddiannu tir Owen Glyn Dŵr. Cynlluniau Owen. Hanes y rhyfeloedd rhwng 1399 a 1416.
Amcanion Owen Glyn Dŵr,—eglwys rydd, dwy brifysgol, gwlad rydd unedig.
Ei gynghreiriaid,—y gwrth—bab, brenin Ffrainc, y Percies, y Mortimeriaid.
Cariad Cymru ato
THOMAS CROMWELL (1485—1540).
Cartref tlodaidd, amseroedd enbyd, cymdogion o Gymry,—tad meddw, brawd—yng—nghyfraith o Gymro i edrych ar ei ol.
Dieithrwch hanes ei ieuenctid,—ei grwydriadau a'i fasnach, ei briodas a chartref ei wraig.
Yn y senedd, ac yn was i'r Cardinal Wolsey, gwlad — weinydd mawr yr oes, ond heb anghofio ei fasnach ei hun. Ar gwymp Wolsey, y mae Cromwell yn gweled ymhell i'r dyfodol.
Ei gymeriad, meddwl oer i gyd, llygaid clir, dirmyg tuag at draddodiadau eglwysig a pholiticaidd.