LLYNNOEDD LLONYDD.
OWEN GLYN DWR.
YN raddol iawn y rhoddir i lawer un ei wir le mewn hanes. Gwyddom am aml arwr gafodd fywyd ystormus, a gwawd canrifoedd wedi ei farw, ond sydd heddyw megis seren ddisglair yn arwain dynol ryw yn ei blaen. Yn aml y mae ysbryd pell y dyfodol yn ymgorffori mewn enaid mawr, nad yw ei fyd ef yn deilwng ohono, ac ni ddeallir ef hyd nes y torro gwawr yr amser gwell yr oedd ef yn byw ynddo trwy obaith a ffydd. Heblaw hynny, y mae dwy blaid braidd bob amser, pob unCuddiad mawredd. yn ymfyddino dan faner rhyw hanner gwirionedd, a rhaid i'r arwr, os myn wneud daioni, berthyn i'r naill neu i'r llall. Ac fel dyn plaid yr edrychir arno, er fod yr egwyddorion wêl ef yn llawer dyfnach a mwy parhaol na'r egwyddorion sy'n rhannu'r ddwyblaid. Cyn y gwêl y byd ei fawredd, nid yn unig rhaid i'r byd hwnnw godi i'r un safle ag yntau, ond rhaid cyfiawnhau neu anghofio dadl y blaid grefyddol neu wleidyddol y perthynai iddi.
Os gellir dweyd fod un, rhagor neb arall, yn graddol ymgodi mewn mawredd o anghof a dirmyg oesau pell, Owen Glyn Dŵr ydyw hwnnw. Y mae pobl canol oed yn cofio dysgu maiYmddadleniad Owen Glyn Dŵr. gwrthryfelwr hanner barbaraidd yn erbyn brenin a chyfraith oedd; y mae'n debig y ca y rhan fwyaf ohonom fyw i weled tynnu'r rhwd oddiar ei ogoniant, a'i gydnabod fel un o'r gwladweinwyr goreu fu'n ceisio codi a gwella'r ynysoedd hyn. Ei awydd am addysg genedlaethol,— y mae Prydain, erbyn hyn, yn deall hwnnw;