Tudalen:Llynnoedd Llonydd.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tir oedd ganddo yr oedd ei gyfrifoldeb i amddiffyn a gwasanaethu ei wlad. Ac ennill ychwaneg o dir oedd. amcan hwn. Yr oedd Ystadud Merton yn rhoddi hawl iddo drawsfeddiannu hynny o fynydd a choedwig na allai'r deiliaid brofi oedd yn hanfodol angenrheidiol i'w dyddyn ef. Ac oherwydd cyfraith ac anghyfraith, yr oedd yr estron yn estyn ei linynnau dros fynyddoedd cyfaeon. Edrychai Iarll Grey yn hiraethus o Gastell Rhuthyn ar eangderoedd Hiraethog a Berwyn; ac ymysg darnau eraill o fynydd gymerodd yr oedd un a hawlid gan yswain Cymreig o'r enw Owen Glyn Dŵr. Beth bynnag oedd Owen Glyn Dŵr cynt, daeth yn arweinydd tywysogion Cymru ar ol i Iarll Grey roddi ei law haearn ar ei fynydd, oherwydd yr oedd rhyw law debig ar fynydd pawb.


Yr oedd mab llafur hefyd wedi cael cipolwg ar ryddid, ac yn cwyno. Bu ef yn gaethwas, heb wybod fin nos beth y gelwid ef i'w wneud bore drannoeth. Yn raddol rhoddodd arferiad derfynau ar amser ei wasanaeth. O dipyn i beth talodd rent,—cynnyrch neu arian, yn lle'r gwasanaeth. Y gweithwyr a deddfau llafur.Erbyn adeg Owen Glyn Dŵr yr oedd wedi dod yn ddyn rhydd, —talai rent, gweithiai am gyflog. Yr oedd llawer o filwyr Owen Glyn Dŵr yn cofio'r Marw Du. Ysgubodd y pla bythgofiadwy hwnnw fel ysbryd du dros yr holl wlad, gan anadlu marwolaeth ar wlad a thref, dyffryn a mynydd fel ei gilydd. Tyfai'r glaswellt ar ystrydoedd Bryste, yr oedd cartrefi'n wag yng ngheseiliau mynydd— oedd uchaf Cymru. Y mae'n ddiameu fod hanner gweithwyr y wlad wedi marw o'r pla. Gan fod llai ohonynt yr oedd mwy o alw am eu llafur, a chododd eu cyflogau fel na allai'r arglwyddi eu talu; braenai'r llafur ar y meysydd oherwydd nad oedd gweithwyr i'w cael. A dechreuodd yr arglwyddi ymyrryd trwy gyfraith. Ceisiasant lusgo'r gweithwyr yn ol, a'u rhwymo wrth y tir yn eu hen gaethiwed. Gwnaethant