Tudalen:Llynnoedd Llonydd.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddeddfau Llafur, i rwystro i neb, dan bennyd, gymeryd na rhoddi cyflog uwch nag a arferid roddi gynt. Trwy ei hela fel bwystfil, trwy serio llythrennau gwaradwydd ar ei dalcen â haearn poeth, trwy ei werthu i gaethiwed lle byddai ei fyw a'i farw'n dibynnu ar ewyllys ei arglwydd,-felly y ceisiwyd llusgo'r gweithiwr i'w hen gaethiwed yn ol. A pha ryfedd fod deiliaid a gweithwyr pob maenor yng Nghymru yn clustfeinio am ddyfodiad Owen Glyn Dŵr?


Drych feddyliau byw.Ni fedr anghyfiawnder yn unig, ni fedr newyn yn unig, nerthu i ryfel neu godi chwyldroad. Ni fedr y naill ond griddfan, y mae'r llall yn ddall gan wendid. Rhaid cael breuddwyd, gobaith, drychfeddwl, beth y galwaf y swyn hwnnw sy'n troi griddfan y gorthrymedig yn iaith hyawdl ddealladwy, sy'n rhoi tân bywyd yn llygad pwl y newynog, sy'n gwneud i'r meddwl cysglyd a'r bywyd isel wneud gwrhydri, sy'n gwneud gwerin yn un? Yr oedd y peth byw hwnnw'n barod i groesawu Owen Glyn Dŵr.1 Gwladgarwch. Dywedai'r bardd y genid pobl eraill dan ddylanwad rhyw seren gyffredin,- Mercher goch, Gwener deg, Sadwrn drwm neu Iau ysblennydd; ond yr oedd seren neilltuol wedi tywynnu ar gynlluniau Owen Glyn Dŵr. Beth bynnag am seren naturiol, yr oedd seren aml ddrych- feddwl byw yn ei arwain yn ei flaen. Un oedd gwlatgarwch, hwn, mae'n ddiameu, dynnai dorf o efrydwyr Rhydychen i ymladd drosto. Un arall oedd cred yn urddas llafur. Tra'r oedd rhai beirdd yn dal i ganu am ogoniant rhyfel ac ysblander llysoedd, canai eraill gân newydd, cân o glôd i'r amaethwr, cân. oedd megis emyn i'r aradr. 2. Urddas llafur. Breuddwydiasai Langlande, ar y bryniau sydd rhwng Cymru a Lloegr, mai ar ffurf llafurwr, ac yn y cae llafur, y gwelid Crist,—nid mewn eglwys lle gorweddai cerf-ddelwau'r arglwyddi