gorthrymus. Ac yng Nghymru cyweiriodd Iolo ei delyn i ganu mawl y llafurwr a'r aradr,—
"Nid addas mynnu dioddef,
Nid bywyd, nid bwyd, heb ef;
Ni cheir eithr ond ei weithred,
Aberth Crist, i borthi cred;
Na bywyd,—pam ei beiwn?—
Pab nag ymherawdr heb hwn,
Na brenin haelwin hoew—liw,
Na da'n y byd, na dim byw."
Ac wrth groesawu seren Owen Glyn Dŵr, dymuniad gweddi y bardd uchel—fonedd hwn oedd,—
"Llaw Dduw Ne, gore un gŵr,
Llaw Fair dros bob llafurwr."
3. Adfywiad dysg. Yr oedd ysfa am wybodaeth yn y byd hefyd. Yr oedd y dwyrain yn dechre tywallt ei thrysorau i'r gorllewin; yr oedd Cyngor Vienne, yn 1311, wedi argymell dysgu Hebraeg, Caldaeg, ac Arabaeg. Yr oedd dysg yr Eidal yn anterth ei gogoniant, yr oedd y ganrif y ganwyd Owen Glyn Dŵr ynddi wedi gweled blodeuad Dante, Petrarca, a Boccaccio. Yn Ffrainc, yr oedd athroniaeth a meddyginiaeth yn eu llawn flodau, a'r ddrama'n dechre. Yn yr Almaen, yr oedd cyfnod y prifysgolion yn dilyn cyfnod y serch ganeuon; sylfaenwyd prifysgol Heidelburg. Yn Lloegr, yr oedd Chaucer a Langlande yn cyd—fyw âg Owen Glyn Dŵr; a hwyrach i'r yswain Cymreig weled Wyclif, seren fore'r Diwygiad. Yn ystod y ganrif hon,—y bedwaredd ar ddeg, sylfaenwyd deunaw o brifysgolion newydd. 4 Y Cyffro Yr oedd meddyliau newydd ym myd yr eglwys a chrefydd hefyd. Yr oedd yr eglwys wedi penderfynu dinistrio'r meddyliau newydd drwy erledigaeth a thrwy dân. Yn fuan iawn yr oedd cri'r merthyr cyntaf i godi o'r fflamau; ac yr oedd tywysog Harri, gwrthwynebydd