Glyn Dŵr, a brenin Lloegr wedi hynny, yn edrych ar ei boenau. Yr oedd y Lancastriaid am nerthu'r eglwys i erlid; ond yr oedd Rhisiard yr Ail o'u blaenau, a'r Yorkiaid ar eu holau, yn bleidiol i'r meddwl newydd ac i oddefiad. Yr oedd rhwyg yn yr eglwys yn gyffredinol hefyd. Yn amser Owen Glyn Dŵr yr oedd dau bab, a phob un yn dweyd am y llall mai anghrist oedd. Dros Urbanus VI. (1378-1389), a'i ganlynwyr[1] yr oedd yr Eidal, yr Almaen, a Lloegr; dros Clemens VII. (1374- 1394), a thros Benedictus XIII. (1394-1409) ar ei ol, yr oedd Ffrainc a Spaen. Penderfynodd Owen Glyn Dŵr adfer rhyddid eglwys Cymru yng nghanol yr helyntion hyn. Ymunodd â'r pab Ffrengig a Spaenaidd, ar yr amod fod eglwys Cymru i fod yn annibynol ar eglwys Loegr.
Pan gyfarfyddodd Senedd Lloegr yn Chwefrol, 1401, yr oedd trefn ryfedd ar y byd. Aflwyddiant ddilynasai'r llywodraeth yn y rhyfeloedd yn yr Alban ac yng Nghymru, a chyda "murmur mawr a Amseroedd enbyd thufewnol felldithio" y rhoddwyd hawl i'r brenin godi treth newydd. Yr oedd Sawtre, y gŵr cyntaf losgwyd yn fyw am heresi yn Lloegr,-newydd ddweyd wrth fy arglwydd archesgob, gyda llygaid tanbaid, y byddai iaith cenedl ddieithr yn dal ei theyrnwialen cyn hir dros wlad Lloegr, a bod y drwg wrth y drws. Ac yn yr adeg honno daeth yswain Cymreig, o'r enw Owen, [2] i erfyn ar y brenin roddi'n ol iddo diroedd a drawsfeddianesid gan Lord de Grey o Ruthyn, tiroedd oedd yn eiddo i deulu Owen er oesoedd cyn cof. Dadleuodd John Trevor, esgob Llanelwy, drosto, gan ddweyd y byddai'n well rhoddi iddo rywbeth tebig i gyfiawnder, gan y gallai