O'r dechre y mae'n amlwg fod Owen Glyn Dŵr yn wladweinydd medrus. Yr oedd ei gynlluniau'n feiddgar ac yn fawrion, a medrai daflu trem eryraidd ar yr ymrafaelion a'r cynghreiriau Cynlluniau eang. oedd yn y gwledydd o'i gwmpas. Y mae ganddo gynllun amlwg yn 1400,—cymeryd y cestyll yn y Gogledd, yn enwedig Conwy a Chaernarfon, cael byddin o Albanwyr a Gwyddelod i lanio yn yr Abermaw neu Aberdyfi; ymdaith gyda llu anorchfygol drwy'r gororau, ac ymuno â phlaid Rhisiart ddiorseddedig yn Lloegr. Yr oedd pob peth fel pe'n gweithio gydag ef. Dylifai'r Cymry dan ei faner, prysurai'r llafurwyr Cymreig o Loegr yn ol ato, ym— dyrrai myfyrwyr Cymreig Rhydychen, arweinwyr y mynych gwerylon yn y brifysgol honno, i ymladd dan arweinydd mor boblogaidd. Ysgrifennai ceidwad castell Caernarfon at y brenin fod y Cymry'n ymarfogi,— "gwerthant eu gwartheg i brynnu ceffylau a harnais; a lladrata rhai ohonynt geffylau, a phrynant gyfrwyau a bwâu a saethau."
Ond, oherwydd yr egni digymar oedd mor nodwedd— iadol ohono yn nechre ei deyrnasiad, medrodd Harri'r Pedwerydd ddod i Gymru cyn bod cynlluniau Owen yn barod, cyn i'r Albanwyr na'r 1400. Deffro Cymru.Gwyddelod ddod, cyn cymeryd y cestyll, a chyn disgyblu'r Cymry i sefyll brwydr. Daeth y brenin ym mis Medi, ac aeth drwodd i ynys Môn. Trodd y brodyr llwydion o Lan Faes,—lle gorweddai Elin, gwraig Llywelyn,—ond gorfod iddo fynd adre cyn ystormydd y gaeaf heb weled cipolwg ar Owen Glyn Dŵr. Hwyrach mai'r adeg hon y collodd ei ganlynwyr eu golwg ar Owen hefyd, pan ar ffo rhag Harri, ac y gofynnodd Iolo Goch,—
"Y gŵr hir, ni'th gâr Harri,
Adfyd aeth, a wyd fyw di?"
Yr oedd yn amlwg fod gwrthryfel Owen wedi disgyn yng Nghymru fel gwreichionen ar ddail crin. Yr oedd y