Tudalen:Llynnoedd Llonydd.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llafurwr yn enwedig yn barod i'w ddilyn, canys trwm iawn fuasai iau arglwyddi'r gororau, a thrahaus iawn oedd bywyd y castellwyr yn hen Gymru Llywelyn. Llais Cymru i gyd oedd gwahoddiad Iolo Goch,-

"A gwaew o dân,
Dyred, dangos dy hunan;
Dyga ran dy garennydd,
Dwg ni o'n rhwym dygn yn rhydd."


Erbyn Gwanwyn 1401 y mae Owen Glyn Dŵr wedi dod yn ol. Tra'r oedd Percy'n ceisio cadw ofn y cestyll ar Ogledd Cymru, trodd Owen i'r De. Ym Mai clywai'r brenin fod holl Ddeheubarth yn dylifo ato, a'i fod yn ymgynghreirio â thywysogion y wlad honno i ymosod ar Loegr, ac i 1401. Anrhaith Ceredigion. ddifa'r iaith Saesneg oddiar wyneb y ddaear. Oddiyno trodd yn ol i Bowys, lle y ceisiodd feddiant o'r Trallwm, a Dyffryn Hafren. Cyn diwedd yr haf yr oedd yn teyrnasu fel tywysog ar Wynedd, Powys, Ceredigion, a Deheubarth; ac yr oedd Cymry'r gororau, yn enwedig Gwent a Morgannwg, yn hiraethu am ei ddyfodiad.

Yn yr Hydref daeth y brenin a byddin fawr i ganolbarth Cymru; a difrododd bopeth ar ei ffordd, gan adael gweddill y cleddyf a'r tân i newyn, ac heb arbed gwraig na phlentyn. Gwnaeth fynachlog Ystrad Fflur yn ystabl i'w geffylau; ac oddiyno casglodd fil o blant y wlad, ebe'r hanes, i'w dwyn yn gaeth i Loegr. Ni feiddiai Owen sefyll brwydr, ond gwibiai o gwmpas byddin y brenin, ac ymgynddeiriogodd hwnnw nes gwneud i uchelwyr gwerinwyr Ceredigion ddioddef creulonderau erchyll. Ond ni fedrodd y brenin wneud dim i Owen ei hun; a chydag iddo droi ei gefn, yr oedd Owen a'i fyddin yn gwarchae Castell Caernarfon. Y mae'n wir na chafodd feddiant o'r castell yn y mis Tachwedd hwnnw, ond yr oedd, erbyn hyn, yn arwr cenedlaethol, a'i faner,-draig euraidd ar liw gwyn,—