cododd llafurwyr Maelenydd Maelenydd a Brycheiniog, a gwarchaeasant ar Aberhonddu. Ym mis Gorffennaf daeth Owen ei hun i Ystrad Tywi, a chododd yr holl wlad i'w gyfarfod. Cymerwyd castell Owen yn y Deheudir. Llanymddyfri, gwersyllodd yr holl fyddin yn y wlad hyfryd sydd o gwmpas Llandeilo a chastell Dynefor. Oddiyno gallai Owen droi ar y chwith i Aberhonddu, neu ar y dde i Gaerfyrddin. Dewisodd droi ar y dde, er mwyn cael Cymru i gyd o'i ochr cyn ymddangos yn y gororau. O bob arglwyddiaeth ac o gysgod pob castell rhwng y Tywi a'r môr, daeth y Cymry i dyngu ffyddlondeb iddo.
Ar yr wythfed o Orffennaf ysgrifennodd deon Henffordd at y brenin y collai yr holl wlad oni ddeuai i'w hachub ar unwaith; ac ychwanega mewn olysgrif frysiog fod Caerfyrddin wedi ei llosgi. Gwaith nesaf Owen oedd cymeryd cestyll Dyfed a Gŵyr. Gorchfygwyd rhan o'i fyddin gan Lord Carew; ond aeth yn ol i Gaerfyrddin o Ddyfed yn fwy cadarn nag erioed. Cododd Cymry Morgannwg a Gwent; ac nid oedd trwy Gymru i gyd ond y cestyll heb eu meddiannu gan Owen. Ac ebe Iolo, o Ddyffryn Clwyd,-
"Glân yw'r arglwydd mawlrwydd mau
Yn dial cam y Dehau."
Ar yr un pryd yr oedd ei gynghreiriaid yn Lloegr yn brysur. Gwrthryfelodd y Percies, ac ymdeithiasant tua Chymru. Erbyn iddynt gyrraedd yr Amwythig, nid oedd Owen Glyn Dŵr wedi gorffen ei waith yn Brwydr Amwythig Neheudir Cymru. Ac yr oedd Harri'r Pedwerydd wedi gweled y collai ei orsedd os gadawai i'r Percies ymuno â'r Cymry. Gydag egni bron anhygoel. cyrhaeddodd Harri'r Amwythig cyn i Owen Glyn Dŵr ymuno â'r gwrthryfelwyr Seisnig. er bod llawer o Gymry'r Gogledd wedi cyrraedd atynt mewn pryd.