Ymladdwyd y frwydr chwerw ar yr unfed ar hugain o Orffennaf, a chafodd y brenin fuddugoliaeth. Ond yn union wedyn yr oedd Owen yn bygwth Henffordd a'r Amwythig, ac yn croesi'r Hafren. Drachefn ymdeithiodd Harri a'i fyddin i Gymru, ac ym mis Medi yr oedd wedi cyrraedd Caerfyrddin. Ond gorfod iddo gilio'n ol gyda'r gaeaf, a daeth yr holl wlad dan lywodraeth Owen Glyn Dŵr drachefn.
Yr oedd ganddo gynllun arall. Galwodd y Ffrancod a'r Llydawiaid i gymeryd lle byddin orchfygedig Gogledd Lloegr; a chyn diwedd 1403 yr oedd y fyddin ddieithr yn glanio yng Nghaerfyrddin. Gyda help y fyddin Gwarchae hon, amcana Owen gymeryd y cestyll.— 1404. Gwarchae ar y cestyll gwaith oedd yn gofyn profiad a medr milwyr disgybledig Ffrainc, a rhoddi trefn cyfraith a heddwch ar y wlad. Yn Ionawr, 1404, cauodd ei fyddin o gwmpas castell Caernarfon. Dihangodd dynes,—ni ellid colli gwasanaeth dyn,—drwy'r rhew a'r eira, ac aeth a hanes trybini'r castellwyr i Gaer, gan ddweyd na allai gwarchodlu bychan Robert Parri gadw'r castell yn hir. Prin yr oedd wedi dweyd ei stori pan ddaeth gŵr byr o'r enw Hywel Fychan i ddweyd fod Owen ar gymeryd castell Harlech, gan fod y gwarchodlu wedi eu lladd bron bob un. Tra yr ymosodid ar y cestyll hyn gyda pheiriannau ac ysgolion, ymdeithiodd Owen tua Lloegr, ac yr oedd tref fawr a chadarn yr Amwythig yn crynnu wrth ei ddyfodiad. Ond nid oedd am fynd ymhell i Loegr nes y cymerai gestyll Caernarfon a Chaer Dydd, ac yr oedd yn dyheu am ennyd o seibiant i drefnu'r wlad.
Galwodd senedd i Fachynlleth, pedwar gŵr o bob cwmwd. Coroni eu tywysog, trefnu'r trethi, dwyn pawb yng Nghymru dan awdurdod cynrychiolydd eu hundeb a'u rhyddid,—dyna waith y senedd hon. Senedd Cymru Dywedir i Syr Dafydd Gam,—fu farw wedi hynny