ddau, yn debig i'w gilydd mewn aml beth. Nid oedd neb yn deall gwladweiniaeth y ganrif yn well na Peter di Luna ac
Owen Glyn Dŵr. hwy, edrychent i lawr fel eryrod ar gynlluniau brenhinoedd di—ddal phleidiau afrifed; yr oedd cynlluniau'r ddau'n eang ac yn feiddgar; meddai'r ddau urddas personol a phenderfyniad anhyblyg; gwisgid y ddau â dieithrwch sydd wedi rhoddi lle mawr i ddychymyg oesoedd wedyn wrth feddwl am danynt; bu'r ddau farw,—y naill ynghudd a'r llall yng nghastell anghyraeddadwy Peniscola,— yn edrych ar ddinistr eu cynlluniau, ond yn anhyblyg hyd y diwedd. Meddai'r ddau, hefyd, amynedd i aros nes y byddai eu gelynion wedi methu, ac nes y gelwid hwy'n ol gan eu pobl eu hun. Ac wele amcanion Owen.
I. ANNIBYNIAETH EGLWYS CYMRU.—Yr oedd y pab i ddileu pob melltith eglwysig oedd yn gorwedd ar Owen Eglwys. a Chymru. Yr oedd i adfer Tyddewi i'w hen fri dychmygol, yr oedd ei harchesgob i reoli, nid yn unig pedair esgobaeth Cymru, ond esgobaethau Cernyw, lle y siaredid Cymraeg yr adeg honno, ac esgobaethau'r gororau.[1] Yr oedd pob bywoliaeth yng Nghymru i fod dan archesgob Tyddewi, a'r un dan archesgob Caer Gaint. Ac yr oedd y pab i ofalu fod pob swydd eglwysig i'w rhoi i rai cyfarwydd â'n "hiaith ni."
II. ADDYSG I GYMRU.—"A'n bod hefyd," ebe'r llythyr, "i gael dwy brifysgol, un yng Ngogledd Cymru a'r llall yn y Deheudir, Prifysgol mewn dinasoedd neu drefydd neu leoedd y penderfynir arnynt gan ein llysgenhadwyr ni." [2]
- ↑ Exeter, Bath, Hereford, Worcester, a Leicester. "Cujus sedes," meddir am yr olaf, "jam translata est ad " Coventry a Lichfield.
- ↑ "Item quod habeamus duas universitates sive studia generalia, videlicet, unum in Northwallia et aliud in Swthwallia, in civitatibus, villis, seu locis per ambaxiatores et nuncios nostros in hac parte specificon, et declaracion."