RHAGYMADRODD.
⊚⊚
WRTH bysgota afon, teifl y pysgotwr ei bluen ar wyneb y rhŷd, lle mae'r dŵr yn fyw redegog, a brasgama o gylch y llyn tawel dwfn. Ond ceir ambell i bysgotwr cyfarwydd yn ddigon medrus i daflu ei bluen ar grych wyneb y llynnoedd llonydd, gŵyr, er anodded y gwaith, mai yno llecha'r pysgodyn mawr.
Ar ddŵr byw rhedegog gwerin Cymru y taflodd Syr Owen Edwards ei bluen y rhan amlaf,—dyna wnaeth yn Yn y Wlad ac yn Er Mwyn Cymru, ond ni frasgamai o gylch lynnoedd llonydd dwfn a thawel gwerin ei wlad. Taflodd ambell i bluen i grych eu dyfroedd dwfn a llonydd hwy; pluen wedi ei thaflu ar wyneb crych y llynnoedd llonydd yw'r casgliad hwn.
Ysgrifennwyd yr erthyglau a'i cynhwysa i'r Llenor o gylch y flwyddyn 1895, gan ac yn null athro o goleg Lincoln, Rhydychen. Fel athro o ddysg yr ysgrifennai, a pheth bynnag arall a wêl y darllenydd yn y casgliad hwn, fe wêl hwyrach fod i Owen Edwards ochr na feddyliodd am dani o'r blaen,—ei fod yn ysgolhaig digon cyfarwydd a medrus i daflu ambell i erthygl ar lynnoedd llonydd dwfn a thawel y werin y gwnaeth cymaint drosti.