benthyg ei Delyn Ledr yr hâf yma os byw a fyddwn. Afraid imi esponio yr Awdl i chwi; chwi ganfyddwch ei thueddiad hi ar y golwg cyntaf. Dywedwch i'r Llew fod fy ngweddi fi'n ddwys ag yn ddygn oi dy ef ddydd a nos, a gobeithio mai gwir Brut Sibli. Gadewch glywed, er mwyn Duw, yn union deg ar ol darfod y Gåd. Yr wyf agos a gwirioni rhwng ofn a gobaith—Am yr Horace Minelli, ni gawn siarad am hwnnw pan êl y mwstr heibio. Nid wyf i'n prisio draen mewn Arabaeg na dim arall weithion, oddigerth y medrwn ddyfod o hyd i Fold i wneud arian; felly na phoenwch am Eirlyfr na dim arall o hyn o dro. Y cebyst i'r Byd brwnt yma, a melldith eu mammau i'r Rhufeiniaid cybyddlyd a ddaeth ag Arian gynta i Frydain. Nid oes yma newydd yn y Byd, a dâl ei grybwyll.—Wyf yr eiddoch yn garedicaf.
𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 31.
At WILLIAM MORRIS.
YR ANWYL WILYM,
DYMA'ch dau lythyr wedi dyfod, ac un oddiwrth bob un o'r ddeufrawd eraill, a phob un yn unair yn dywedyd yr un newydd cysurus yng nghylch y fuddugoliaeth a gafas y Llew, ie yn wir. Ni choeliech chwi mo Sibli; oni wyddoch chwi (chwedl Joseph gynt wrth ei frodyr) y medr gwr fel myfi ddewiniaeth? Etto er hyn yr oedd Sibli, wrth holi ac ymofyn, wedi cael gwybod o dan din pa ddiwrnod y byddai'r gad, onid nis gallasai (mwy nag Alis y ddewines,) mo'r dywedyd yn bendant, "cyn nos Wener, " &c.,a "chyn terfyn Mai," &c. For those things are not, cannot be revealed to modern prophets without their being at the trouble of pumping for 'em, which is an art they have a good knack at. Y cebystr i'r llythyrau, beth mae'r cast sydd ganddynt o fyned a dyfod yn ngwrthgefn eu gilydd. Doe y cefais eich diweddaf, gan