Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 33.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Gorffennaf 12, 1754.

Y DIWYD GELFYDDGAR GYDWLADWR,

DYMA'R Delyn Ledr wedi dyfod i Walton o'r diwedd, mewn cywair odidawg hefyd; diau, er pan fu farw Gwgan fawd newydd, na fedrasai neb arall ei chyweirio fal hyn, namun chwychwi. Wele! Cann hawddammor i Wastrawd y dollfa! Braidd y mae gennyf synwyr i ddiolch am y gymmwynas, gan synu a thysmwyo rhag ei godidoced! Iê, ië, gwyn eich byd chwi ac eraill, meddaf fi etto, wrthyf fi a'm bath! Mwy yw hyn nag a welais er ymhoed o'r blaen, ond mae'n debyg nad yw draian a welsoch chwi o gywreinwaith ein hynafiaid ardderchog. Mae genyf yma yn fy meddiant fy hun, garp o hen lyfr MS. o Gywyddau a darewais wrtho yn Nghroes Oswallt, ac a yrraf yna i chwi, os nad yw'r Cywyddau genych eisoes. Chwi gewch daflen o honynt yn gyntaf i edrych a feddwch yr un o honynt ai peidio. Nid oes yn y Delyn Ledr (am a welaf) ond un o honynt, sef Cywydd "Y Llong dan y fantell hir," o waith Robin Ddu. Braidd y medraf fi darllen y llaw, gan ei bod hi o'r hen ddull, a spelio hynod o ddrwg. It was written by one that calls himself Edward ab Dafydd in the year 1639. It seems to have been afterwards in the hands of his son who writes himself, not John ab David (or ab Edward) as the old fellow did, but John Davies, and his name I find written in 1671 and 1672, but with no additions worth notice. By this I conclude him to have been—a Shropshire Welshman, and indeed his llediaith and bwnglerdra sufficiently shew it!! Er hynny ammor iddo am ei ewyllys da a'i gariad i'r iaith; er carnbyled oedd ei waith arni. Yr oedd genyf un arall o gymmar i hwn; ond fe aeth hwnnw i law ddrwg, sef y lleidr o deiliwr gan fy mrawd Owen, ac yno y trigodd, a deg i un nad yw bellach gan faned ag usa waith y gwellaif, a'r pen diweddaf o honno yn eirionyn mesur o'r culaf, ac yn barod i'w droi heibio rhag na ddalio un nic yn ychwaneg. Nid ydwyf yn cofio pa bethau oedd yn hwnnw, am nad oeddwn y pryd hynny'n bwrw'n ol y barddoniaeth