a doethach philosophydd? ar air, pwy fwy ei ysfa a'i ddingc a'i awydd i brydyddu, ac etto, pwy waeth prydydd? Trwstan o fardd yn ddiammau ydoedd, ac odid ei gymhar, o ŵr o ddysg, oddigerth yr hen Ddr. Davies o Fallwyd. Etto, er argymhennu ac ymresymmu o honof fal hyn, nis mynwn i neb dybio mai afraid i brydydd fod yn ŵr o ddysg; nagê, nid felly y mae chwaith; er na ddichon dysg wneuthur prydydd, eto hi a ddichon ei wellhau. Cymmerwch ddau frawd o'r un anian, ac o'r un galluoedd o gorph a synwyr, ac o'r un awenyddol dueddiad, a rhowch i'r naill ddysg, a gommeddwch i'r llall, ac yno gwelir y rhagoriaeth. Er na ddichon y saer maen wneuthur maint y mymryn o faen mynor, etto fe ddichon ei 'sgythru a'i gaboli, ei lunio a'i ffurfio, a gwneuthur delw brydferth o honnaw, yr hyn ni ddichon byth ei wneuthur o'r grut brâs a'r gwenithfaen.
Huzza! Huzza! mae Mr. Mosson yn ddyn da; Dyma lythyr oddi wrtho yn mynegi fod Dr. Wynne o Ddolgelleu wedi marw yn gelain. Rhaid taflu hwn o'm llaw, a'i yrru i ffordd i gael amser i ysgrifenu i Allt Fadog, ac at yr Iarll, &c. Nid allaf gymmeryd mo'r amser i ddywedyd dim ychwaneg; ond bendith Dduw i chwi, am roi Mr Mosson ar waith, ac ildo yntau am ysgrifenu cyn gynted ;—it is dated, Beaumaris, 19th instant, and I received it this minute, viz. 22nd. I am, dear Sir, &c.
P.S. Let me have from you some Poetry this time, but I must not miss this Post; as it is post day, I hope you'll forgive me. My compliments to Mr. Ellis.