Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/121

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

British language, and another considerable branch of the same stock, viz. the Irish. And borrowing from the Irish is in a manner no more than Holi Tir o ddadanudd. It is, in reality, but reviving and recalling a British word, that had grown obsolete, into use again. And that surely is much more natural than borrowing from any exotic language that is not of the same original, as we now too frequently do of the English, French, &c.

Na ddo, ni ddaeth Bob Owen i'r cyrrau yma etto, am a wn i; Duw o'r nef a'i dycco yn ddihangol, mae fy nghalon yn gofidio drosto bob munud, gan arwed yr hin, i'r mordwywr bychan. Fe fu gefnder i mi yma'n ddiweddar o Barth a Mynydd Bodafon, ac yn ol yr hanes a ge's gan hwnnw, nid yw Bob gyffelyb i wneuthur Cymraeg Môn fawr brinach er a ddycco yma o honi. He tells me they are very fond of learning English of him, &c; so never trouble their heads about teaching him Welsh. He said he would take him home with him for a week or a fortnight to my aunt's Agnes Gronw; if so, I'm sure he will be very much made of, and shall have plenty of Welsh, while he has time to stay. God. send him a fair wind, and good passage. I don't care how soon I see my little baby. Er mwyn dyn, gadewch gael ystori y Maen gyd a'r efengyl yn gyfan o'i phen. Mae'n debyg mai ci brathog oedd y ci, a'r Monach yn rhoi prawf ar wyrthiau'r efengyl i'w wastrodedd o. Ond pwy oedd y dyn a feddyliodd am wyrthiau'r maen?

Garddwriaeth meddwch yw'r genuine exercise; f'allai mai ê. Gwyn eich byd chwi sy'n perchen gardd; nid oes genyf fi ddim o'r gwaith hwnw i'w wneuthur yma ysywaeth! Ond ni chlywais i son fod Selyf yn ymhel à rhaw bål erioed, ac os gorfu Adda ryforio, nid oes genyf nemawr o gŵyn iddo,-ei fai ei hun oedd.

Ai ê? prinion iawn ydyw'r ffrancod yna? Garw o'r newyn am danynt sydd yma hefyd. Mi yrrais ryw fath ar negeseuwr llesg i Lundain i ymofyn am rai yn ddiweddar; mi a'i gyrrais â chwedl parod ganddo, ac a erchais iddo ddywedyd ei neges.

fel hyn.[1] Och fi! Pa fodd yr aeth Llanrhaiadr nesaf i

  1. Gweler y "Cywydd i ofyn Ffrancod," Bardd. Gor., arg. Lerpwl, tud. 95.