oedd yn peri i mi gymmeryd calon (not to be disheartened), ond hawdd yw dywedyd, Dacw'r Wyddfa; etto 'rwyf yn tybio fod fy nghalon i yn ddur neu o ryw ddefnydd rhy wydn a pharhaus i dori. Yr wyf ar bendroni yn disgwyl am lythyr oddiwrth y Mynglwyd, ac yn enwedig oddiwrth y pendefig o'r Gors i atteb Cywydd y Ffrancod. Surely my letter miscarried for want of knowing the Cross Post. I directed to William Vaughan, Esq., Member, &c., at Gors, in Merionethshire, N. Wales. Ai tybed nad oedd hyny yn ddigon? Ond nis gwn i ar fy nghrogi pa le mae'r Post yn croesi i'r fangre anghysbell honno. Mae fel y byddwch gan fwynod ag ymwrando am offeiriadaeth i mi erbyn Calanmai, oblegid mi roddais warning i'm hen feistr er ys mis neu well, drwy ryw yngom a fuasai rhyngof a'r Mynglwyd yn nghylch bod yn offeiriad Cymreig yn Llundain; a chan nad wyf yn clywed gair oddiwrtho, I mistrust the scheme has miscarried, and almost repent of my lash warning here. My circumstances will not allow me to be idle for one week. Dyma ffrencyn a ge's gan y Du o Allt Falog yn nghylch hwn; nis gwa beth a geir i wisgo am y nesaf oni chlywir o'r Gors. Fy annerch caredig at Mr. Ellis a phawb a garoch. Nid oes genyf ddim ychwaneg i w ddywedyd, ond fy mod ar farw ac ar fygu gan y peswch. Duw a'ch cadwo'n iach. Wyf yr eiddoch yn ddiffuant.
Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/126
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
GRONWY DDU.