ffordd i Sais ein dal mewn celwydd yn yr hyn na atto Duw. Am y Gair Barbariad a'r cyffelyb, mae ini gystal hawl arnynt a'r gorau: nid yw Barbariad ddim gair yn y byd o'r dechreuad, ond rhai o Gym'dogion y Groegiad (y Phrygiaid neu'r Troiaid mae'n debyg) oedd a chanddynt ryw air go anhepgor, megis Bar, Bar; a'r Groegiaid, yn ddig fod neb yn siarad heb iddynt hwy eu dyall, a'u galwasant Barbariaid bôd y pen, o wir ddial ac atgasrwydd, fal y geilw'r Gwyndyd Wyr y Deheudir Hwynthwy fach yn awr. Ac fal y geilw'r Cymry i gyd bob peth na ddyallont Sisial, a Sibrwd, a Sio, a Sisyful, &c., heb achos yn y byd, ar a wn i, ond bod y Llythyren S yn rhy fynych yn Iaith y Saeson, ac yr wyf yn cofio Dyn yn yn y Mwythig a arferai ddywedyd rhywbeth yn Saesonaeg, (yr hon oedd yr unig Iaith a ddyallai,) ond gan roi ch yn nhîn pob gair, fe fynnai ei fod yn ddifai Cymraeg, a hynny am fod y Llythyren ch yn tra mynychu yn yr Iaith Gymraeg.—Am y Galli, chwi ellwch eu galw yn Galliaid neu Geltau, neu fal y mynnoch. Dyma ystori Iwl Caisar ynghylch yr enw; sef mai Celta y gelwid hwy yn eu hiaith eu hunain, ond yn y Lladin, Galli. Yn wir wedi i Iwl eu curo hwynt, fe allai gymeryd rhyddid a rhwysg i'w llysenwi fal y mynnai; ond hysbys agos yw gennyf mai camgymeryd yr oedd Iwl yn yr Enw arall, ac na alwodd y Bobl erioed monynt eu hunain—Celta. Yr wyf yn ffyddlon a sicer gredu mai Gallau neu Galluau, y galwai'r Bobl eu hunain, (& by the by, they had had a better title to that appelation than their present High Mightinesses) ond na fedrai Iwl na'i bobl ystumio mo'u tafodau i ddywedyd y Llythyren mwy nâ charn Sais.—You know that even our latter Ancestors pronounced the Letters D & G much harder than we do, almost as hard as our T & C. Then consider how they would pronounce Gallau, & ask an Englishman to to say Callau, and I marvel if he does not say Calthai or Caltay; as they nickname Llangollen and Llanfyllin, Clangothlin and Lan or Clan Vothlin, or Votling. Add to this, that it is more than probable that the Vulgar of the latter Romans did (as it is certain the old Romans did, witness Aurai, Pictai, &c &c.) pronounce their Diphthong æ or œ, as
Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/129
Prawfddarllenwyd y dudalen hon