Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel yr y'ch yn clywed mae'n debyg yn o fynych. Mae fy holl dylwyth i yma bod y pen, ond fy merch fach a fynnai aros yn monwent Walton, o fewn deurwd neu dri at y fan y ganwyd hi; mi wneuthum rhyw ddarn o Farwnad iddi hi, yr hon mae'n debyg, a welsoch cyn hyn. Rhowch fy ngwasanaeth at Mr. Ellis yn garedig, a gadewch gael rhyw swm o newyddion o Fôn gynta' galloch. Chwi a welwch na fedraf ond rhy brin ymodi fy mhin na'm bysedd i ysgrifenu, ac yn wir, nid oes arnaf na llun na threfn iawn o eisiau sefydlu mewn rhyw wastadfod fy hun. Gyrrwch gyhyd a'ch bys o lythyr yma gyntaf ag y galloch, er cariad ar Dduw, ac yno odid na fyddaf mewn gwell cyflwr i'ch atteb y tro nesaf. Dyma Mr. John Owen yn rho'i llythyr at ei fab yn yr un ffrencyn. Ein gwasanaeth at bawb a'n caro yn ein cefnau, a byddwch wych.

GRONWY DDU.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 41.

At WILLIAM MORRIS.


LLUNDAIN, Gorphenaf 8, 1755.

Y CREGYNYDD ADDFWYN

GWAE finnau fyth! mae'n chwedl chwith glywed yr hanes yna! Aiê, nid oes blas yn y byd mwyach ar na Chywydd nac Englyn, gan ddaed blas cregyn gwynion a gleision, a llygaid meheryn y Traeth Coch a Phenllech Elidr yn Mon? E ddywaid rhyw hen gorph er ys talm (Rhys ap Meredydd y pysgodwr o Faelor, hyd yr wyf yn cofio) mae

"Gwell bod yn wraig pysgodwr
Nag i rai nad âi i'r dwr."

Eithr anhawdd gennyf goelio ddywedyd o neb erioed (ond y merched) fod yn well i GYFAILL Pysgodur na CHYFAILL Prydydd. Ac yn ol y byd sydd o honi y dyddiau hyn, fe allai fod prydydd cystal wrth fenyw a physgodwr. Ond beth