Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw pysgodwr i gregynwr, meddwch? Câr agos, fe weddai, wrth eich gwaith chwi yn dewis swrwd o weddillion ei bysg meirwon ef o flaen Cywydd ac Englyn. Wele, wele, fe allai. y parha y gregynfa yna, er hynny i gyd, yn llawer hwy na gwaith un prydydd o'r to sydd, ac nid wyf, o ddifrif yn ammau llai. Pa ddelw bynag y digwyddo hyny, odid na welsoch fod modd i brydyddu rhyw faint yn Llundain, a chwi a gewch, os byw fyddwch, ychwaneg o ddangosiad o hynny etto. Ni phoenaf yn gyrru i chwi ddim rhimynau oddiyma, gan fy mod yn tybio fod Mr. John Owen yn hepgor i mi hynny o boen. Dyma hwn yn dyfod yn ffrangc y Llew, gyrrwch chwithau'r eiddoch yr un ffordd. Nid rhaid i mi yrru dim newydd; canys chwi gewch y cwbl, ond cymmaint yr wyf yn eiddoch,

GRONWY DDU.

O.S.—Fy ngwasanaeth yn garedig at Mr. Ellis; a brysiwch yrru i mi ryw newydd o farw gwrach neu berson, os ceir grod oddi wrtho.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 42.

At RICHARD MORRIS.


NHOLT, Hydref 7, 1755.

EIN TAD YR HWN WYT YN Y NAFI!

ARHOWCH beth! nid oeddwn i'n meddwl am na Phader, na Chredo, ond meddwl yr oeddwn eich clywed yn son y byddai dda gennych gael offrwm o Gywion Colomennod; a chan na feddwn nag Oen na Mynn Gafr, mi a'i gyrrais i chwi 'n anrheg o'r gorau oedd ar fy llaw, a phoed teilwng genych eu derbyn. Eu nifer yw chwech, ac yr wyf yn lled ofni y cyst i chwi dalu i Borter am eu cludo ar ei ysbawd o Holborn hyd attoch; ond am y cerbydwr (Smith o Uxbridge) mi a dalaf iddo hyd at y Gloch yn Holborn. Os digwydd iwch weled y Llew chwi ellwch ddywedyd wrtho yn hydr ddigon, nad â na Phregeth