Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/138

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y leni; pa sut y bu hynny arnoch? Byddwch mor fwyn a hyfforddi Caniad Lludlo at Mr. Humphreys o'r Tŵr, i gael ei farn arni. Fy ngwasanaeth at bawb a'm caro yn y cwrr yna, ac odid y bydd hynny chwaith anhawdd. Wyf eich Gwasanaethwr ufuddaf, neu'n hytrach eich Gormeswr anoddef,

GRONWY DDU O FON

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 45.

At RICHARD MORRIS.


NORTHOLT, Mai 20, 1756.

YR ANWYL DAD,

MI a dderbyniais eich Epistol torrog, ac ni's gwn yn iawn pa un fwyaf ei gymeriad yma, a'i'r Cyw, a'i'r Fam. Da oedd gweled pob un, ac amheuthun iawn oedd cael un o Gybi. Digrif o'i gof yw'r hen Fardd Coch; mae Gwilym Cybi'n taeru ei fod gwedi hurtiaw, ond yn wir glew iawn y tybiwn i yr hen Gorphyn, ne ystyried y cwbl, sef, nad oes gantho neb yn Ghymru i hogi ei hen Awen rydlyd, na neb i ddarllen a brydo, nag i'w ganmol, na'i oganu; ac o chaiff, o ddamwain, a'i darllenno, odid gael ai deallo, ac a farno yn gywir ac yn gelfydd arno. Dyna fy ngyflwr fy hun gynt, a gwir yw'r hên chwedl "Gwraig a ŵyr orau gyflwr Gwraig." Ond siccr yw genyf mai dyma'r Cywydd gorau a welais i erioed o waith y Côch, (ac, fe fu agos i'm a dywedyd o waith neb sy'n fyw heddyw, ond da'r atteliais) ac fe gaiff atteb ryw bryd, fal yr haeddai. Nid am ei fod yn Arwyrain i mi yr wyf yn canmol y Cywydd (oblegid mi gefais fwy o ryw fudr-glod gan yr un Awdwr dro arall, er na feddyliais. y talai i'w atteb) ond am fod ynddo fwy o Synwyr, llai o eiriau segur, ac ymadrodd anghyfiaith, gwagsaw, amhriod, a gwell Cymraeg. Ei Gynghanedd y tro o'r blaen oedd Croes rwyiog ddychweledig, i'w chanu wyneb a gwrthwyneb, na bond ei grybwyll! Ond heth a dâl Cynghanedd heb