synwyr cymmesurdeb a phriodoledd? Ai è tybio a wnaech fy mod yn glâf, neu'n torri fy nghalon ar ol y Blwch Tybacco? Nid ych chwi Ddewin yn y Byd, mi welaf, er eich bod yn Benneth ar holl Dderwyddon, a Doethion, a Dewinion Prydain Fawr. Beth meddech am wers ddiogi, &c. &c. a llawer o fan ddamweiniau eraill a all ddigwydd i Ddŷn? Ond un peth (os rhaid cyfaddef) sydd i'm digalonni'n gethin, sef na chlywais o Allt Fadawg oddiwrth y Llew na'i Nai. Rhyfedd. na chlywid oddiwrth Ieuan Owain fwynwr, o's yw'n fyw; am y Llew, 'rwyf agos a chanu'n iach iddo oblegid fod lle i ofni ei fod wedi digio tros byth bythoedd, o ran na chefais gantho ond sen, y llythyr diwaethaf byth a welais oddiwrtho. Y matter sy fel hyn, (a matter garw yw hefyd). Digwydd a wnaeth y Llew ddal sulw arnaf yn ysmoccio fy nghettyn ynghyfarfod y Cymmrodorion, ac uthr oedd gantho weled Bardd (fal Iar mewn mŵg), a'r niwl gwynn yn droellau o amgylch ei ben ("like Glory in a Picture"). Dyna'i air ond am Foulkes, &c. nid oedd ryfedd gantho. Yr oedd yn taeru'r un amser, fy mod wedi hanner crapio; ac yn wir mae'n atgof genyf yfed o honof ran o phiolaid o Bwins yn nhŷ y Car II. Prys cyn dyfod yno. Ond gadewch i hyny fod: nid aml y bydd y gwendid hwnnw arnaf, (a goreu fyth po'r. anamlaf) a diau yw fod maddeuant i fwy troseddau nå hyny, er ei gymaint. Senn iachus, er fy llès i, oedd y senn, a diolchgar ydwyf am dani; ond etto nid arwydd då ar neb fod yn anfaddeugar. Nis gwn i achos arall yn y byd iddo ddigio, a bid mor dynn. Mae genyf yma'n f'ymyl brophwyd- oliaeth, a 'sgrifenwyd cyn gweled o honof Lundain erioed, sy'n dywedyd: "Mai o's fi (pan ddown yna) a fethwn, yn yr hyn lleiaf, ddal y ddysgl yn wastad i'r Llew, na wnâi ond fy nirmygu, a'm cablu, a'm coegi, ar air a gweithred tros byth, heb obaith, na chymmod, na hawddgarwch, na mwynder, yn oes oesoedd, Amen." Nid hawdd genyf i goelio'r gwaethaf am neb, yn enwedig am un yr oedd imi le i dybio'n well o honaw; a phe gwyddwn pa le y mae, mi yrrwn atto unwaith etto i edrych beth a ddywedai. Dygaswn eich bod yn ei ddisgwyl yna cyn hyn, ond ni chlywaf monoch yn sôn gair ei ddyfod. Drwg clywed ei fod yn y Drain pa le bynnag
Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/139
Prawfddarllenwyd y dudalen hon