Nid y cyfarfod nesaf, oblegid yr wyf yn ofni nad allaf pe'm direddyd. Dyma Gornelius ap Adda wedi dyfod i'm hedrych, ac yn eich annerch yn fawr. Mae'n dywedyd i mi fod yn beth cywilyddus i'r Tew o Gybi ddisgwyl dim ychwaneg o Lythyrau oddiwrtho fo, nes atteb y rhai a gafodd; a bod yno bedwar eisus yn crio yn ei wyneb ddydd a nos am attebion. Gwae fi na wyddwn pa le mae Miltwn o Gastell y Waun yn byw yn y Dref yna, i edrych a geid rhyw fesur o ffraingc gantho. Ni naghasai monof ddydd a fu, eithr cywilydd yw crugo Pobl foneddigion am ryw oferedd; ond myn Derfel mae arnaf gymaint angen ffraingc, nas gwn beth yw wneuthur. Dyma'r diwaethaf yn dyfod yna attoch. Peidiwch ag esgeuluso gyrru yr Parry yma da chithau; dywedwch wrtho am ddyfod yma ddydd Sadwrn nesaf gyda'i Gerbyd; ac mi a'i cyfarfyddaf yn Chevy Chace, rhwng Hanwell a Southall, canys dyna'r torriad nesaf o'r ffordd i Northolt. Mi fynwn iddo ddyfod y Sadwrn, o achos fod genym Ffair yma Ddydd Llûn, a phob. digrifwch ynddi, megis rhedeg, neidiaw, ymbastynu, neu dorri Cloliau & Llawffyn; a phob math arall o ddifyrrwch gwladaidd, megis y peth a welsom y llynedd ym Mheckam Rye, pan ennillws y Gymraes y Crys meinllin. Rhyw Wylmabsant, mi debygwn, yw'r peth, o herwydd na chedwir mono ond unwaith yn y flwyddyn; ac er eu bod yma yn ei alw 'n ffair, ni bydd ddim ar werth yno ond teis- ennau, bara melys, a theganau, a Chwrw, &c. &c. Beth a fyddai i chwi biccio hyd yma gyda Pharry? Nid rhaid ichwi ddim ofn prinder o fwyd a Diod, na lle i orwedd. Onid ellir eich cynwys yn ein gwelyau ni, fe ellir cael eu gwell mewn Tŷ private wrth y Fonwent, lle bu lawer un a ddeuai i'm gweled. yn cysgu cyn bod genyf le fy hun i'w croesawu. Gwir yw mi fyddwn yn talu i Mrs. Hart am y gwely, ond beth a brisiwn yn hyny? yn enwedig gan fod y lle mor gyfleus, yn union wrth fy nrws. Felly goreu ichwi gipio'ch cippyn a'ch cappan a dyfod, ac oni bydd modd i chwi aros dim hwy, chwi ellwch aros o'r Sadwrn hyd y bore ddydd Mawrth; ond am y Parry, fe eill aros mis neu ddau er dim sydd gantho i'w wneud gartref. Cymerwch fy nghyngor, am hyn o dro, a dowch yma; ac oni ddowch, gadewch gael gweled bropred esgus a geir genych;
Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/142
Prawfddarllenwyd y dudalen hon