Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/143

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond na chynygiwch wynebu monof heb bentwr mawr o ffraingc yn eich coden. A chofiwch y Blwch Tybacco er dim fo, oblegid fod yr Argraph sydd arno'n sefyll yn lle Cronicl o ryw beth go hynod a ddigwyddws yn amser Gronwy Ddû. Rhowch fy annerch yn garedig at Wilym o'r Twr gwyn, y Person ap Wmphre, a phawb oll a'm caro, neu a garwy (os gwyddoch pwy ydynt); a chredwch fy môd, o galon ddiffuant, i'ch caru a'ch parchu, fal y gweddai, Ich Gwasanaethwr gostyngedigeiddiaf,

GRONWY DDU GYNT O FON.

O.S.-Pan yrroch i Fon, cofiwch fi at eich Tad, a'r Athraw Ysgol Rhisiart ap Harri o Lannerch y Meddwon.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 46.

At RICHARD MORRIS.


YN niwedd llythyr go ddigllon a sgrifennodd 27 Fedi, 1756, medd ef: "Am eich Llyfrau chwi a fenthycciais; chwi a'u cewch pan fynnoch: ni bu'm erioed ar gyngyd, na'u bwyta na'u hyfed, na'u gwerthu na gwneuthur ffagl o honynt. Ac am y Dafis yna, mae iddo groeso i'r dodrefn (sydd heb dalu am danynt) pan fynno; nid oes arnynt nemmor o geiniog- werth. A phan ddelo amser cyfaddas, mi ddiolchaf i'r wyneb lleuen gadach, am ei gastiau llechwraidd. 'Roedd y llechgi brwnt yn ddiswydd ddigon ddyfod yma gyda'r cynrhonyn coesgam hwnnw o fachgen i hel chwedlau; ac yn cydgoethi a chablu arnaf gyda'r dafarnwraig biglas yma, fal y mae hi yn addef yn awr, wedi cymmodi o honom.

Y BARDD GWYLLT,'