𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 48.
At yr anrhydeddus a'r hybarch Gymdeithas o Gymmrodorion, Gronwy Ddû eu Cyfaill a'u Bardd gynt, a'u Gwasanaethwr, a'u Câr hyd angau, yn anfon Annerch-
Y PENDEFIGION URDDASOL,
"Yn gymaint a'm bod eisus yn dra rhwymedig i'ch hybarch Gymdeithas, a'm bod yn myned yn ddiattreg (Duw ro fordwy dda) yn rhy bell i ddisgwyl byth weled un wyneb Dŷn. o honoch; mi dybiais nad anghymmwys imi (neu'n hytrach fod yn ddyledus arnaf) gymeryd cennad teg gennych oll cyn fy nghychwyn. Ac, fal y mynnai Dduw dyma'r adeg oreu oll o'm blaen, sef ar noswaith eich Cyfarfod, pryd y mae rhan fawr o honoch wedi ymgynnyll trwy Undeb a Brawdgarwch (yn ol eich Arf-sgrif) i gyd synniaw ar wir lês eich Gwlad, ac i hwylio 'mlaen amryw eraill o ddibenion canmoladwy i'ch Cymdeithas. Gweddus a Christionogol iawn eich gwaith, boddlawn gan Dduw a chysurus i amryw o'i Aelodau anghenawg, a chlodfawr yngolwg holl Ddynol ryw a sicer a fydd eich gwobrwy (ddydd a ddaw) gan yr hwn a ddywed, "Gwyn ei fyd a dosturio wrth y tlawd a'r anghenus." Am danaf fy hun, nid allaf ymhonni o ddim rhan o'r fendith yma (er bod yn aelod o'ch urddasol Gymdeithas) gan na roes y Goruchaf im' mor Gallu, er y gallaf yn hyderus ddywedyd na bu arnaf erioed ddiffyg ewyllys, ac (os Duw a'm llwydda) na bydd byth. Dyn wyf i (fal y gŵyr amryw o honoch) a welodd lawer tro ar fyd, er na welais nemmor o dro da, ac mi allaf ddywedyd wrthych (fal y Patriarch Jacob i Pharaoh gynt) Ychydig a blin fu dyddiau'ch Gwas hyd yn hyn; ond yn awr yr wyf yn gobeithio fod Nef yn dechreu gwenu arnaf, ac y bydd wiw gan yr Hollalluog, sy'n porthi Cywion y Gigfran pan lefont arno, roi i minnau fodd i fagu fy Mhlant yn ddiwall, ddiangen. Er eu mwyn hwy'n unig y cymmerais yn llaw y Fordaith hirfaith hon, heb ammeu gennyf nad galwad Rhagluniaeth ydyw. Hir a maith yn ddiau yw'r daith i Virginia; ond etto mae'n gysur (pan elir yno) gael dau ganpunt yn y flwyddyn at fagu'r Plant. Mae hyn yn fwy nag a ddisgwyliais erioed ym