Mhrydain na'r Iwerddon; a pha fodd yr attebwn i'm teulu, pe gwrthodwn y fath gynnyg trwy lyfrdra a difrafwch? Er eu mwyn hwy ynteu, mi deflais y Dis, gan roi f'einioes yn fy llaw, a diystyru pob perygl a allai 'ngoddiwes; a hynny nid yn fyrbwyll ond o hîr ystyried ac ymgynghori a'm carai. O..d er hynny wedi 'styried ol a blaen, mi welaf yn awr lawer anghaffael na fedrais graffu arnynt nes bod yn rhywyr. Erbyn. eyttuno & Pherchenog y Llong, mi welaf nad yw'r holl arian a gaf at fy Nhaith, ac oll a feddaf fy hun (wedi talu i bawb yr eiddo), ond prin ddigon i ddwyn fy nghôst hyd yno; ac erbyn y caffwyf fy nhroed ar Dir yr Addewid, y byddaf cyn llymmed o arian a phan ddaethum o grôth fy Mam. Gwaith tost yw i bump o Pobl fyned (nid i Deyrnas ond) i Fyd arall, heb ffyrling at eu hymborth! A gwaethaf oll yw, nad a'n Llong ni o fewn 30 milltir i Williamsburgh; ac (och! Dduw) pa fodd yr ymlusgir yno hyd Fôr na Thir heb arian? Fe ŵyr Duw mor llwm ac annrhwsiadus hefyd ydym oll i fyned i'r cyfryw le; ond nid yw hynny ddim os ceir Bara-
Dyna'r achosion (anwyl Gydwladwyr) a barodd i'm ryfygn gofyn eich Cymmorth ar hyn o dro, gan wybod yn ddilys na flinaf un o honoch byth rhagllaw; ond os Duw rydd Einioes, mi gyd unaf & chwi'n llawen i gymmorth eraill o'n Gwlad. Rhowch hefyd i'm gennad, ar hyn o achlysur, i dalu diffuant Diolch i chwi am eich parodrwydd i'm cymmorth dro arall, pryd yr oedd llai fy angen, er nad llai eich Ewyllys da chwi, na'm Diolchgarwch innau; er na cheisiais ac na chefais y pryd hynny ddim o'ch haelioni, o fai rhyw Aelod blin terfysgus. oedd yn eich plith. Ond yn awr yr wyf yn attolwg arnoch, y rhai oeddych mor barod im Cymmorth (ped fussai raid) fy ngymmorth ychydig wrth fy llwyr angenrhaid. Nid wyf yn ammeu Ewyllys da yr un o honoch ar y cyfryw achos; Ond pa un bynnag a wneloch ai ystyried fy ngyflwr ai peidio, Myfi a weddiaf ar Dduw roi ichwi lwyddiant yn y Byd hwn, a'r hwn sydd i ddyfod; yr hyn (y pryd yma) yw'r cwbl a cill eich ufuddaf wasanaethwr,
- Tachwedd yr Ail, 1750,