Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 4.

At RICHARD MORRIS, o Lundain.


DONNINGTON, Mehefin 22, 1752.

SYR,

Mi a dderbyniais eich Epistol, a rhyfedd oedd gennyf weled un yn dyfod o Lundain, a thra rhyfedd gweled Enw Gwr na welais erioed â'm llygaid. Ffafr oedd hon heb ei disgwyl eithr po lleiaf y Disgwyliad mwyaf y Cymmeriad. Er na ddigwyddodd i'm llygaid erioed ganfod mo honoch, etto nid dieithr i mi mo'ch Enw; tra fu byw fy mam [mi a'i clywais yn fynych.] Gan ofyn o honnoch pa fath fywoliaeth sydd arnaf, cymmerwch fy Hanes fel y canlyn. Nid gwiw gennyf ddechreu sôn am y rhan gyntaf o'm. Heinioes; ac yn wir, prin y tâl un rhan arall i'w chrybwyll, oblegid nad yw yn cynnwys dim sydd hynod, oddigerth Trwstaneiddrwydd a Helbulon; [a'ch bod chwithau'n gorchymyn yn bendant i mi roi rhyw drawsamcan o'm hanes.] Tra bum a'm llaw yn rhydd (chwedl pobl Fôn), neu heb briodi, byw yr oeddwn fal Gwyr ieuaingc eraill, weithiau wrth fy modd, weithiau'n anfodlon; ond pa wedd bynnag, A digon o Arian i'm cyfreidiau fy hun, a pha raid ychwaneg? Yn y flwyddyn 1745, e'm hurddwyd yn Ddiacon, yr hyn a eilw'n Pobl ni Offeiriad hanner pan; ac yno fe ddigwyddodd fod ar Esgob Bangor eisiau Curad y pryd hynny yn Llanfair ym Mathafarn Eithaf ym Môn; a chan nad oedd yr Esgob ei hun gartref, ei Chaplain ef a gyttunodd A mi i fyned yno. Da iawn oedd gennyf y fath gyfleusdra i fyned i Fon (oblegid yn Sir Gaernarfon a Sir Ddymbych y buaswn yn bwrw y darn arall o'm hoes er yn un ar ddeg oed), ac yn enwedig i'r Plwyf lle'm ganesid ac y'm magesid. Ac yno yr aethym, ac yno ba'm dair Wythnos yn fawr fy mharch a'm cariad gyda phob math o fawr i fâch; a'm Tâd yr amser hwnnw yn fyw ac iach, ac yn un o'm Plwyfolion; Eithr ni cheir mo'r melys heb y chwerw. Och o'r Gyfnewid! Dymma Lythyr yn dyfod oddi wrth yr Esgob (Dr. Hutton) at ei Gappelwr neu Chaplain, yn dywedyd fod un Mr. John Ellis o Gaer'narfon