𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 5.
At RICHARD MORRIS.
Syr,
Dyma'ch Llythyr wedi cyrraedd hyd ymma; a da iawn oedd gennyf ei weled, ac nid bychan ei groesaw er mwyn y Llaw a'i hysgrifennodd. E fu frwnt anial gennyf lawer gwaith, er pan ysgrifenais attoch o'r blaen, na buaswn yn gyrru i chwi Gywydd y Farn. Ni's gwn, pe crogid fi, pa fodd y bu hynny o wall arnaf; eithr boed siccr gennych mai nid anewyllysgarwch oedd yr achos, ond byrr feddwl. Tybio wnawn i fal Hurtyn, mai amgenach a fyddai genych ei gael yn Argraffedig, heb ystyried mai unig Gymmeradwyaeth yr Anrheg oedd hanfod o honaw o law yr Awdwr. Ba wedd bynag, os rhynga fodd iwch esgusodi hynny o esgeulusdra, llyma fo i chwi yn awr fal y mae gennyf finnau trwy ei liw a'i loywion, fal y dywedynt.[1]—Wel, dyna i chwi Gywydd y Farn, ac odid na fydd ryfedd genych (a gwaeled y Gwaith) gael o hono gymmaint cymmeriad yn y Byd. Ond os mawr iawn ei Gymmeriad, mwy yw'r genfigen, gan rai, wrtho. Os nad ych yu dirnad paham y rhoddwyd y geiriau hyn yn ei ddiwedd—Crist fŷg a fo'r Meddyg mau—gwybyddwch claf a thra chlaf o'r Cryd oeddwn pryd y dechreuais y Cywydd, ac hyd yr wyf yn cofio meddwl am farw a wnaeth i mi ddewis y fath destyn. O's chychwi a chwenych weled peth ychwaneg o'm Barddoniaeth i, gadewch wybod pa ddarnau a welsoch (rhag i mi yrru i chwi y peth a welsoch o'r blaen), ac yno mi yrraf i chwi Gywyddau o fesur y Maweidiau. 'Rwyn dyall fod yr hên Frutaniaid yn Bobl go gymdeithgar yna yn Llundain. Ond pa beth a ddywaid yr Hen Ddihareb, Ni bydd dyun dau Gymro?[2] Gobeithio er hynny nad gwir mo bob Dihareb, ac os e, mai nad Dihareb mo hon, on'd rhyw ofer-chwedl a ddychymmygodd rhyw hen Wrach anynad, ymladdgar. Digon gweddol a thylwythgar y gwelais i hynny o Gymru a gyfarfüm â hwynt yn Lloegr. O's tybiwch yn orau, chwi