ellwch ddangos Cywydd y Farn i rai o'ch brodyr yn y Cyfarfod Misawl nesaf, yn enwedig i Mr Huw Dafis, neu'r cyffelyb, & fo'n hanfod o'n gwlad ni ein hunain. Ni'm dawr i pa farn a roi'r arno, oblegid gael o hono farn hynaws a mawrglod gan y Bardd godidoccaf, enwoccaf sy'n fyw y dydd heddyw, ac (o ddamwain) a fu byw erioed Ynghymru, nid amgen Llewelyn Ddu o Geredigion, yr hwn yr wyf fi yn ei gyfrif yn fwy nå myrdd o'r Mân-glytwyr Dyriau, naw hugain yn y Cant, sydd hyd Gymru yn gwybetta, ac yn gwneuthur neu'n gwerthu ymbell resynus. Garol, neu Ddyri fòl Clawdd. Pe cai y fath Rymynnwyr melldigedig eu hewyllys, ni welid fyth Ynghymru ddim amgenach, a mwy defnyddfawr, na'u diflas Rincyn hwy eu hunain.
Am y Grammadeg Arabaeg a Syriaeg, gadewch iddynt, ni fynnwn i er dim eich rhoi chwi mewn côst na llafur er porthi fy awydd fy hun. Nid wyf etto berchen y bocced a brynnai Lyfr o werth Dwybunt. Rhyw Goron neu Chweugian a fyddai ddigon genyf fi wario ar Lyfrau Arabaeg. Nid oeddwn i yn deusyf nac yn disgwyl yr A'ach chwi i'r boen i ymofyn cyn fanyled ynghylch y fath beth. Rhaid i mi, heb y gwaethaf, roi heibio feddwl am y cyfryw bethau, hyd oni thro'o Duw ei wyneb a gyrru i mi fy Ngofuned, neu rywbeth a fo cystal er. fy lles. Rhaid yw yn awr arbed yr Arian tu ag at fagu'r Bardd a'r Telyniawr, a chodi calon "Y Wraig Elin rywiog olau." Am y Llyfrau Arabaeg ac Ebryw sydd yn eich meddiant chwi eich hunan, nid wyf mor chwannog a'u cybyddu oddiarnoch: ni fyddai hynny mor llawer gwell nâ lladrad, oblegid fe orfyddai arnoch brynnu eraill yn eu lle hwynt at eich gwasanaeth eich hun. Mae'n gyffelyb eich bod chwi'n dyall yr Ieithoedd hynny, ac os felly mi a wn fi yu swrn dda anwyled y gall fod genych y Llyfrau. Mae gennyf fi yma Feibl, a Salter, a Geirlyfr a Gramadeg Hebraeg, a dyna'r cyfan,-a da cael hynny. Ond am yr Arabaey, ni feddaf Lyfr o honi. Gwych a fyddai gennyf gael gwybod pwy yw Siancyn Tomos Phylip, sy'n dyall yr ieithoedd Dwyreiniol cystal. Gwyn eich byd chwi, ac eraill o'ch båth, sydd yn cael eich gwala o ddysg a Llyfrau da, ac yn amcreiniaw mewn ehangder a digonoldeb o bob cywreinrwydd, wrthyf fi a'm bith, sy'n gorfod arnom ymwthio'n dynn cyn cael llyfiad bys o geudyllan goferydd Dysgeidiaeth. Gwae fi o'r cyflwr! Ni ddam-