Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

draeth wrth Owain, ac y mae lle i ofni nad erys y Pôst wrth Ronwy. Byddwch wych. Wyf eich tra-rwymedig a gostyngeiddiaf Wasanaethwr,

Goronwy Ddu, gynt o Fon.

Dyd-dyd gadewch wybod orfu i chwi dalu am y Llythyr o'r blaen.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 6.

At WILLIAM MORRIS.


DONNINGTON, Medi 21, 1752.

SYR.

Mi a dderbyniais eich caredig lythyr o'r 31 o Awst, yr un mynud ag yr oeddwn yn cau fy llythyr at eich brawd Llewelyn, sef oedd hynny Medi'r 16, yn ol y rhif newydd, a hyn a roes i mi gyfleusdra i chwanegu darn at ei lythyr ef y'mherthynas i'r hyn yr ydych chwi yn ei grybwyll yn eich llythyr; a gobeithio y caf atteb cysurus. Nid oes genyf amgen (a pha raid ?) i'w roi i chwi na bendith Dduw, a diolch am eich caredigrwydd a'ch cymmwynasgarwch, a'ch gofal am danaf.

Drwg iawn ac athrist genyf y newydd o'r golled a gawsoch am eich mam: diau mai tost a gorthrwm yw y ddamwain hon i chwi oll, a chwith anguriol ac anghysurus, yn enwedig i'r hen ŵr oedranus; eithr nid colled i neb fwy nag i'r cymmydogion tlodion; chwychwi oll, trwy Dduw, nid oes arnoch ddiffyg o ddim o'i chymmorth hi yn y byd hwn, ac a wyddoch gyd â Duw i ba le yr aeth, i Baradwys, mynwes Abraham, neu wrth ba enw bynnag arall y gelwir y lle hwnnw o ddedwyddyd, lle mae eneidiau y ffyddloniaid yn gorphwys oddiwrth eu llafur, hyd oni ddelo cyflawniad pob peth, ac yno, wedi canu o'r udgorn diweddaf, a dihuno y rhai oll a hunasant yn y llwch, y caiff pob enaid oll eu barnu yn ol eu gweithredoedd yn y cnawd; a chymmaint un a hunasant yn yr Arglwydd a drosglwyddir i oruchafion Nefoedd, yno i fod gyd a'r Arglwydd yn oes oesoedd.