come, and have my thanks too. But I am afraid the. Cywyddau will never be printed, because I doubt the money cannot be raised. The rate of printing at Salop is two guineas a sheet for 1,000 copies, which is three times too much to bestow on them; and there would not go above two or three of them at most on a sheet. For my part, I am very indifferent whether they are printed or not.
Ai byw yr hen Gristiolus wydn fyth? Is the curacy of Llanrhuddlad disposed of? What other curacy is vacant? for I am sure I shall never better myself by staying here. I have already sufficiently tried the generosity of my Scotch patron, and find it too slender to lean upon. He is the hardest man I ever dealt with. Waethwaeth yr a'r byd wrth aros yma; prin y gellir byw yr awrhon— a pha fodd amgen, tra bo y brithyd am goron y mesur Winchester, a'r ymenyn am saith ceiniog, a'r caws am dair a dimai'r pwys?—a pha sut y gellir disgwyl byw tra cynnydda'r teulu, ac na chynnydda'r cyflog? Y llangciau a ant fwyfwy'r clwt, fwyfwy cadach; ac ymhell y bwyf, ïe, pellach o Fôn nag ydwyf, os gwn i pa'r fyd a'm dwg. Ni's gwybûm i mo'm geni [er clywed gan fy mam ganwaith,[1]] nes dyfod i fysg y Saeson drelion yma. Och finnau! Mi glwyswn. ganwaith sôn am eu cynneddfau, a mawr na ffynnasai genyf eu gochel. Mi allaf ddywedyd am danynt, fal y dywed Brenhines Seba am Solomon, "Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad fy hun am danynt, etto ni chredais y geiriau nes im' ddyfod ac i'm llygaid weled; ac wele ni fynegasid i mi yr hanner." Nid. oes genyf fi lid yn y byd i'r Doctor E—s; mae yn rhydd iddo ef ddictatio fal y fynno, onid fod yn rhydd i minnau wneuthur yn fy newis ai canlyn ei ddictat ef ai peidio; a pheidied o a digio oni chanlynaf, ac yno fe fydd pob peth o'r goreu. Cenawes ystyfnig ydyw 'r Awen. Ni thry oddiar ei llwybr ei hun er ungwr. Ac yn wir nid yw ond digon afresymol i ŵr na fedd nac Awen na'i chysgod gymmeryd arno ddysgu un a'i medd, pa fodd i'w harfer a'i rheoli. Fe ellir gwneuthur pwt of bregeth ar y testyn a fynno un arall ; ond am Gywydd, ni thal ddraen oni chaiff yr Awen ei phen yn rhydd, ac aed lle mynno.
A phwy bynnag a ddywedo amgen, gwybydded fod ganddo
- ↑ Nid yw'r frawddeg sy rhwng cromfachau yn argraffiad R. Jones. Cymerir hi o argraffiad Llanrwst.