Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddalen ryw fath ar Gywydd o Goffa da am dani.[1] Da y gwn na ddichon fod ar law burgyn o'm bath i ganu iddi fal yr haedda'i; etto mi allaf ddangos yr Ewyllys, ac nid eill y gorau ddim ychwaneg. Mi allaswn, rwy'n cyfaddef, siariad geiriau mwy, on'd yr oedd arnaf weithiau ofn dywedyd y gwir i gyd, rhag i neb dybied fy mod yn gwenieithio! 'r hyn sydd gasbeth gan fy Nghalon. Fe wyr pawb a'i hadwaenai hi, nad ydwyf yn celwyddu nag yn gwenieithio o'i phlegid. Am y lle y crybwyllais eich Enw chwi, escusod wch fi; nis gwyddwn pa beth i'w ddywedyd am danoch, ac nis clywais erioed amgen nâ'ch bod yna yn Llundain, a rhai o'ch mån gampiau a'ch mwynion chwedlau gynt, pan oeddych yn fachgen, a glywswn gan fy Mam:—Pa fodd y cymmerasoch fwyall fechan gyda chui i dorri'r Ysgol erbyn y Gwyliau, a'r cyffelyb. Mi welais hefyd er ys gwell nå deunaw Mlynedd ym Meddiant f'Ewythr Rhobert Gronw, Lythyr, ac ynddo ryw nifer o Englynion cywreinddoeth, a yrrasech gynt oddi yna at fy Nhaid (yr Hên Ronw) ac heblaw hynny nid côf genyf glywed siw na miw yn eich cylch. Pa wedd bynnag 'rwy'n dyall wrth hynny fod gennych eich rhan o Naturioldeb gwreiddiol yr Hen Gelfyddyd, a gobeithio na thybiwch i mi wneuthur dim cam a chwi. Mi yrrais y Cywydd i Mr. Morris o Gybi, ac i fy Athraw o Allt Fadawg hefyd ond nis clywais etto pa'r un ai da ai drwg ydyw. Rwy'n coelio pe cymmeraswn lai o ofal yn ei gywreinio, mai llawer gwell a fuasai: canys sicer yw fod gormod gofal cynddrwg a gormod diofalwch. Llyna'r Cywydd fel ag y mae; ni phrisiwn ddraen er gwneuthur pwtt o Gywydd i'r Gymdeithas o Hên Frutaniaid, ond cael ystlys gair o'i hanes. Da iawn a fydd genyf glywed oddiwrthych pan gaffoch ryw gyfleusdra. Nid oes genyf ddim 'chwaneg i'w ddywedyd ond fy mod yn rhwymedig i chwi am bob Twrn da. Yr hwn wyf, Syr, Eich ufuddaf, ostyngeiddiaf Wasanaethwr a Chydwladwr anwiw,

GRONWY DDU GYNT O Fon.
  1. Ychwanga'r llawysgrif—"Gwelwch y Cywydd yn Diddanwch Teuluaidd.