Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr un rhifedi o ddwylaw, &c. &c., ag o'r blaen tu ag at ymdaro am fy mywyd; etto er maint fy ngofalon, cyn belled wyf oddiwrth feddwl fy nheulu'n bwys a gormes arnaf, a'm bod yn fy nghyfrif fy hun yn gannwaith dedwyddach na phed fai genyf gann punt sych wrth fy nghefn am bob safn sy genyf i ofalu trosto: oblegyd pe digwyddai i mi unwaith ddyfod at gerrig y Borth yn y cyflwr yr wyf, da y dylwn ddiolch i Dduw, a dywedyd fel y dywaid y Patriarch Jacob, "Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di, nag o'r holl wirionedd a wnaethost a'th was, oblegyd a'm ffon y deuthum dros y Fenai hon, ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai:" a diau mai fy ffon a minnau oedd yr holl dylwyth oedd genyf pan ddaethum tros Fenai o Fon, ond yn awr y mae gennyf gryn deulu a ro'es Duw i mi mewn gwlad ddieithr. Bendigedig a fyddo ei enw ef.

If I was ever so sanguine, I could hardly hope that the said. Bishop of Landaff would find me any thing so soon as I shall want, which must be probably about lady-day next, and consequently should not be so indolent as to leave myself unprovided in case of necessity. To use one's own endeavours. is not at all inconsistent with a firm reliance on providence. I should be very glad to hear of a curacy in any county of North Wales excepting Anglesey and Denbighshire, the first I except for the reason above mentioned, and the other, because I know the inhabitants of it too well. Pobl gignoethaidd, atgas ydynt, ffei arnynt! as my wife is used to say in her Shropshire dialect. I beg you would be so good as to get some intelligence whether that Curacy in Lancashire, where young Owen of Aberffraw was to have gone to, may now be had, and if so, whether the place is worth stirring for. I have no objections to that country any more than this; I am now [a] pretty old priest, and any one that would serve turn in Shropshire, especially in this part of it, might also suit any other county in England, London only excepted. As I am in favour with Mr. Lee, nid anhawdd a fyddai iddo ef ddal i mi grothell yn mha le bynnag y byddwn, ond cadw ohonof yr hen gyfeillach ar droed. Mae o yn ŵr mawr iawn gyda Earl of Powys (Lord Herbert gynt), Sir Orlando Bridgman, Esgob Llandaff, ac aneirif o'r gwyr