Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

language. Y mae'n gyffelyb fod Ieuan Brydydd Hir ac eraill wedi eu rhoi ar waith ar yr un achos, ac mai'r Cywydd goreu a ddewisir i'w ro'i i'r Tywysog; a sicr yw, os felly y mae, ní chaiff fy Nghywydd i ddangos mo'i big i'w Frenhinol Uchelder. [Yma y dilyn y Cywydd i'w gyflwyno i Dywysawg Cymru.[1]] Dyna i chwi y Cywydd fal y mae, ac os boddia'r Gymdeithas, nid wyf yn ameu na chewch glywed ychwaneg o son o Lundain; fe'i hargraffir mae'n debyg cyn ei ro'i i'r Tywysog. Os byw fyddaf ryw Wyl Ddewi arall, mi fynnaf finnau genhinen sidan o Lundain; nid oes yma ond cennin gerddi i'w cael, ac ni's gwaeth gan lawer am eu harogledd hwy, ond yn enwedig y Saeson yma. Mae genyf un ffafr arbenig i'w gofyn genych, a hyny yw, fod o honoch mor fwyn a gyru i mi o dro i dro yn eich llythyrau, engraffau, neu siamplau o'r pedwar mesur ar hugain. This is a favour I've been a begging of Mr. Lewis Morris this whole twelve months and above without any effect. One example or two in a letter would soon make me acquainted with them. I suppose you either have or may borrow Grammadeg Sion. Rhydderch; I remember my father had one of them formerly, and that is the only one I ever saw, and as far as I can remember, it gave a very plain, good account of every one of them, viz., Cywydd Deuair Hirion (or the like) a fesurir o 7 sillaf, &c., &c. All the Measures I know at present are Englynion Unodl Union, Cywydd Deuair Hirion, Gwawdod- yn Byr, and Englyn Milwr: I protest I know no other. The two last, Mr. Lewis Morris brought me acquainted with, and the only knowledge I had of Gwawdodyn Byr, when I made my Gofuned, was a stanza or two of it, made by Ieuan Brydydd Hir on Melancholy that Mr. Morris had sent me as a specimen of his ability in Welsh Poetry, and no wonder that my Gofuned should be faulty in blindly copying after so inaccurate a pattern. Is it not a pity that many a pretty piece should be for ever lost for want of proper help to produce it! 'Rwyf agos a diflasu yn canu yr un don byth fel y gôg. Mae Cywydd yn awr, o eisiau tipyn o ryw amheuthyn, wedi myned mor ddiflas a photes wedi ei ail dwymno. Gyrwch i mi ryw

un neu ddau o'r mesurau na's adwaen yn mhob llythyr, ac yna

  1. Gwel tudal 71 Bardd. Gor., arg. Lerpwl.