Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aruthr, anhygoel, ac wynebpryd llew, neu ryw faint erchyll- ach, a'i ddrem arwguch yn tolcio ym mhen pob chwedl ddigrif, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion; ac yn cnoi dail yr India hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên. Ond ni waeth i chwi hynny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthaf a welwyd erioed y tu yma i'r Affric. Yr oedd yn 'swil gennyf ddoe wrth fyned i'r Eglwys yn ein gynau duon fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel båd ar ol llong.

Bellach e fyddai gymmwys rhoi i chwi ryw gyfrif o'r wlad o'm hamgylch; ond ni's gwn etto ddim oddi wrthi, ond mai lle drud anial ydyw ar bob ymborth: etto fe gynnygiwyd i mi le i fyrddio (hyd oni chaffwyf gyfle i ddwyn fy nheulu attaf) yn ol wyth bunt y flwyddyn; a pha faint rhattach y byrddiwn ym Môn? Nid yw y bobl y ffordd yma, hyd y gwelaf fi, ond un radd uwchlaw Hottentots; rhyw greadur- iaid anfoesol, didoriad. Pan gyfarfyddir & hwy, ni wnant onid llygadrythu yn llechwrus, heb ddywedyd pwmp mwy na buwch; etto yr wyf yn clywed mae llwynogod henffel, cyfrwys-ddrwg, dichellgar ydynt: ond yr achlod iddynt, ni'm dawr i o ba ryw y b'ont.

Pymtheg punt ar hugain yw yr hyn a addawodd fy Mhatron i mi; ond yr wyf yn deall y bydd yn beth gwell na'i air. Ni rydd i mi ffyrling chwaneg o'i bocced; ond y mae yma Ysgol råd, yr hon a gafodd pob Curad o'r blaen, ac a gaf finnau oni feth ganddo: hi dâl dair punt ar ddeg yn y flwyddyn. Fel hyn y mae: pan fu farw y Curad diweddaf, fe ddarfu i'r plwyfolion roi yr Ysgol i'r clochydd; ac yn wir, y clochydd a fyddai yn ei chadw o'r blaen, ond bod y Curad yn rhoi iddo bum punt o'r tair ar ddeg am ei boen. Ond nid oes, erbyn edrych, gan y plwyfolion ddim awdurdod i'w rhoi hi i neb; ond i'r Person y perthyn hynny; ac y mae efe yn dwrdio gwario 300 neu 400 o bunnau cyn y cyll ei hawl. Felly yr wyf yn o led sicr o'i chael hi; ac oni chaf, nis gwn yn mha le y caf dŷ i fyw ynddo; odid i mi ei chael hithau gryn dro etto, tu a'r Mehefin neu y Gorphenaf, ysgatfydd, pan ddel yr Esgob i'r wlâd.

Os yw J. D. Rhys heb gychwyn, gyrrwch ef yma gyd A'r llong nesaf; a byddwch sicr o lwybreiddio ef, a'ch holl lythyrau, at Rev. G. Owen, in Walton, to be left at Mr.