Mae'r wraig a'r plant wedi dyfod yma er's pythefnos, ac yr ydym oll wrth ein bodd, onid eisiau dodrefn i fyned i fyw i'r Ty'n y fynwent. Fe orfu arnaf werthu pob peth yn Dennington, i dalu i bawb yr eiddo, ac i gael arian i ddwyn ein cost yma; felly llwm iawn a fydd arnom y chwarter cyntaf. Nid oes arnom eisiau dim yn fawr ond gwely neu ddau; am gypyrddau, silffiau, &c., mae y rhai'n yn perthyn i'r tŷ. Mae genym ddigonedd o burion llenlleiniau, lleiniau bwyd, &c., heb eu gwerthu. Yn nghylch pum' punt a'm gosodai i fyny yn bin yrwan. Ac o'r pum' punt (y welwch. chwi!) dyma Dduw a haelioni Llewelyn wedi taflu i mi ddwy heb eu disgwyl. Duw a dalo iddo'n ganplyg.—Anrheg i'm dau lanc ydynt.—Ni welais mo'r Captain Foulkes eto, ni che's mo'r amser gan bensyfrdanu yn nghylch yr Ysgol yma. Mi glywais son ei fod yn myned i voyage i Guinea yr haf yma. Ni's gwn pe crogid fi pa fodd i gael rhodd Mr. L Morris yma; os medrwch chwi ddyfeisio rhyw ffordd, da fydd eich gwaith. Rhowch fy annerch yn garedig at Mr. Ellis, a gobeithio ar Dduw ei fod yn dechreu myned yn gefnog. Mi gefais ddau lythyr oddiwrth Mr. L. Morris o Lundain er pan ddaethym yma, ac yr oedd yn dywedyd ei fod wedi gorchfygu ei elynion yn lew. Mi ges un oddiwrth Mr. R. Morris i ddywedyd y cawn fod yn un o'r Corresponding Members o'r Cymmrodorion. As to Mr. Owen of Prysaddfed if he should happen to write to me, (as I suppose he never will) I'll thank him in the most thankful manner imaginable, but will decline his intended favours, as I may very well do, for I can hardly throw up £40 to accept £20.—The Lord be with you and bless you.—My service to your father. I am, dear sir, your most obliged servant, GORONWY OWEN. P.S.—I have not the Cywydd Sior by me, therefore I beg you would send it Coch Twrkelyn, with my compliments, and let him know he should have had it long ago if it had not been for my hurry in removing. Tell him I send it to you in a frank, and desired you to send it him, without the needless expence of a letter.
Mawl i Dduw, nid oes arnaf un ffyrling o ddyled i neb, fel y bu o fewn ychydig flynyddoedd.