𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 16.
At WILLIAM MORRIS.
DEAR SIR,
THE Papist I know, reckon sloth among these sins which they term mortal. And I doubt not (if you were one of the persuasion) but you would think me in a very desperate state, and advise me out of mere charity, to confess and be absolv'd (if possible) tho' it should cost me the price of a bill of twenty years penance, or even a barefoot pilgrimage to the Holy Land. Well, to be sure, it is an heinous sin to be lazy, and perhaps I might confess something, were I but sure of a mild penance and speedy absolution. Pa fodd bynnag, nid oes gennych yna yr un Pâb, am hynny ni wiw cyffesu, gwell, gwell ymdaeru peth, and say I am guilty of nothing but what is venial. If you knew how busy I've been some weeks past, you would, I am persuaded, easily pardon my dilatoriness. Tra thrafferthus y gwelaf fi hel ychydig ddodrefnach yn nghyd, a hyny oedd raid i mi wneuthur mewn byr o amser, oni fyddai well genyf werthu fy hun am a dynai fy nannedd. Hawdd yw cadw un pen; ond y mae pedwar pen yn gofyn gryn lafur. Pa fodd bynnag, dyma fi, i Dduw b'or diolch, yn y Tŷ yn y fynwent, a'm teulu gyda myfi, ac ar ddarparu byw yn ddigon taclus, os Duw rydd hoedl ac iechyd. Mi yrais i chwi o'r blaen hanes. yr ymgomio a fu rhyngof â'r Alderman Prisiart, mi a'i gwelais unwaith neu ddwy wedi hyny. Gwr mwynaidd iawn ydyw. Mi gefais y dydd arall lythyr oddiwrth Llewelyn o Llundain; yr oedd o a'i frawd yn siongc, ac wedi agos drechu ei elynion, ac yn dwrdio bod gartref yn Ngallt Fadog yn mhen y pythefnos. Mi atebais ei lyther o yn union; ond nid wyf yn disgwyl yr un arall oddiwrtho hyd oni elo adref. I have waited impatiently for a long time for my books from Shropshire, and with them, Dr. J. Davy Rhys's Grammar, but have hitherto waited in vain. If I had my books here I would endeavour to paraphrase all the Gorhoffedd as I did the first two stanzas. I beg you would from time to time, favour me with the remaining part of that excellent Poem, or