troiad yma ar fyd; Duw a gadwo ac a gynhalio i mi fy hen batron Brooke am y bawai gan Ddouglas gyrith, draen yn ei gap a hoel helyg. 'Rwy'n gweled yr awrhon, mai y goreu a gair oren (fel y dywedai fy mam,) mai hyspys y dengys y dyn, &c. Am y Cywyddau ni's gwn yn iawn beth i wneuthur o honynt; you know very well that authors never write notes on their own works. What notes should I write upon mine? To point out the beauties, (if there are any,) would bear too. hard upon my modesty, and even transgress the rules of common decency. On the other hand, to play the critic, and point out the faults would be unnatural, and indeed needless, for I am well aware there are a set of gentlemen that will do that for me, and faster perhaps than I would desire. All therefore that I can do with decency is, to correct the originals, and write them fairly and correctly over, and add in the margin an explanation of hard words, with Scripture proofs, allusions, &c. This I told Mr. Richard Morris, in my last, I was willing to do; and to go any further would be improper and indecent for an author. I wish any candid and fair critic would spare me even that trouble. The copies you sent me. are most strangely metamorphosed, so sorrily handled, (poor things,) that I scarcely know them; I am sure, if I could not restore them to their primitive state, I would be tempted to disown them. As to the Society, I suppose I would have been an unworthy member of it by this time if I had not been. dilatory in answering Mr. Richard Morris's letter, wherein that honour was intended me.
Mi gaf fy llyfrau yr wythnos yma 'rwy'n gobeithio, ac yno mi dorraf waith iddynt mewn barddoniaeth oreu y medrwyf, ac nid yw hynny ond digon sal o w'rantu. Mae gennyf yma gryn waith ar fy nwylaw, mwy nag yn Donnington; etto mi gaf weithiau ystlys odfa i weu rhywfaint wrth fy mawd, yn enwedig pan él y nos yn beth hŵy; oblegid gwell gan yr Awen hirnos gauaf (er oered yr hin) na moeldes ysplennydd hirddydd haf;-ac un cysur sydd gennyf, er oered yr hin yn y wlad oerllwm yma, ni bydd arnaf ddim diffyg am danwydd; oblegid mae gennyf eisoes ddau lwyth certwyn o lô a rowd i mi gan rai o'm plwyfolion; ac oddeutu Gwyl Fihangel fe fydd