y Diffeithwr dau wynebog â Dido druan? Ai gwiw disgwyl ynteu i'r ffalswr hwnnw feddwl am Ddydd y Farn? Ond o ddifrif, nid oedd i'w gael yn y llyfrau hynny hanner yr oeddwn i'n ei ddisgwyl; ac nid rhyfedd, oblegid pan oeddwn yn gwneuthur y Cywyddau, nis gwn edrych o honof unwaith yn Homer na Virgil, ond y ddau Destament yn fynych. Daccw. Gywydd y Farn fal y mae, (a Nodau arno, gorau a fedrais i eu casglu) wedi myn'd i Allt Fadawg i edrych beth dalo, e oddiyno fe ddaw attoch chwithau i Lundain o nerth y arnau, os caiff gynhwysiad o dan law Llywelyn, ac onid è ni wiw mo'i ddisgwyl. Ac os bydd hwnnw'n boddio, fe giff Bonedd yr Awen ynteu ei arlwy'n yr un modd a'i yrru i chwi allan o law. Os rhaid dywedyd y gwir, chwi a gawsech y Ddau'n llawer cynt oni buasai Mr. Vaughan o Gors y Gedol, yr hwn, pan oedd yma yn nechreu Mis Medi, a ddywaid wrthyf, (trwy ofyn o honof iddo) nad gweddus oedd imi sgrifennu ar fy Ngwaith fy hun. A hynny a rwystrodd beth arnaf; ond yn ddiweddar, sef, ynghylch Wythnos a aeth heibio, 'roedd gennyf ddigon o rwystr arall. gartref. O fewn y pum wythnos neu chwech yma, fel ddigwyddodd i'r Wraig Elin ryuriog olau syrthio'n ddwy Elin, a byd anghysurus iawn, a llawer dychryn, a thrwm. galon, ddydd a Nos, a gawsom oblegyd yr Elin icfangc (er bod ei Mam, i Dduw bo'r diolch, yn swrn iach) tros hir amser, am ei bod yn dra chwannog i'r llesmeiriau a elwir Convulsions; ond gobeithio 'rým ei bod o'r diwedd, (gyd â Duw) wedi eu gorchfygu hwynt. Yr oedd ein dychryn. ni o'r achos yn fwyfwy byth, am na welsom wrth fagu'r lleill ddim o'r fath beth erioed; canys Llangciau cryfion iachus oedd pob un o'r ddau fachgen, i Dduw bo'r mawl, ac ynt etto. Dyna i chwi y rhan fwyaf o achosion fy annibendod; ac oni thyccia hyn yna, ni thyccia dim. Gwych. o'r newydd a glywaf gennych ynghylch Iarll Powys; Duw a dalo'n Ganplyg i chwi oll trosof; nid oes dim a ofynno'r Iarll gan nag Esgob, na nemmawr o undyn arall, na chaiff yn rhwydd, a gresyn ofyn o honaw ryw waelbeth. Pa beth debygwch chwi ? Mae fy meddwl i wedi troi'n rhyfedda' peth a fu erioed; canwaith y dymunais fyned i Fôn i fyw, ond weithion (er na ewyllysiwn ddim gwaeth i'm Gwlad
Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/74
Prawfddarllenwyd y dudalen hon